Trosolwg o'r Cwrs
Nod ein MA mewn Cyfieithu a Chyfathrebu Rhyngddiwylliannol yw'ch arfogi fel ieithydd â'r wybodaeth, y sgiliau a'r arbenigedd technolegol sydd eu hangen i lwyddo yn y diwydiant ieithoedd byd-eang amrywiol sy'n datblygu.
Bydd y rhaglen hon yn eich paratoi am yrfaoedd fel cyfieithydd proffesiynol, cyfieithydd ar y pryd neu arbenigwr cyfathrebu rhyngddiwylliannol, yn ogystal â rolau sy'n dod i'r amlwg megis arbenigwr lleoleiddio a thrawsgreu, rheolwr prosiectau iaith, arbenigwr technoleg iaith neu weithiwr proffesiynol mewn addasu cynnwys.
Byddwch yn gweithio yn Saesneg gydag un neu fwy o'r ieithoedd canlynol (yn amodol ar alw):
- Arabeg
- Tsieineeg
- Ffrangeg
- Almaeneg
- Eidaleg
- Sbaeneg
- Cymraeg
Mae llwybrau astudio hyblyg yn eich galluogi i ddewis y llwybr Cyfieithu Proffesiynol/Technoleg, y llwybr Cyfieithu ar y Pryd, neu gyfuniad o'r ddau, gydag opsiynau ychwanegol megis Cyfieithu Clyweledol, Efelychu Swyddfa Gyfieithu, Cloddio Gwybodaeth a Chyfieithu Arbenigol i gyfoethogi eich profiad dysgu ymhellach.
Agwedd unigryw ar yr MA hon yw y gallwch gael interniaeth 12 wythnos yn hytrach na chyflwyno traethawd hir traddodiadol, cyfle arbennig i chi ennill profiad ymarferol mewn lleoliad proffesiynol. Neu, gallwch ddewis cwblhau traethawd hir traddodiadol neu opsiwn cyfieithiadau estynedig.
Mae'r MA hon hefyd yn cynnwys opsiynau i astudio'n amser llawn neu'n rhan-amser, a chyfleoedd i astudio MA Safonol, Estynedig neu Ddwbl gyda Grenoble.
Mae'r MA estynedig hefyd yn eich galluogi i wella eich profiad a'ch cyflogadwyedd drwy:
- gwblhau credydau arbenigol ychwanegol yn Abertawe neu
- dreulio semester dramor yn un o'n prifysgolion partner, ymysg opsiynau eraill
Mae MA ddwbl mewn Cyfieithu a Chyfathrebu Rhyngddiwylliannol ar gael i fyfyrwyr sydd â gallu brodorol neu'n agos at hynny mewn Saesneg a Ffrangeg. Bydd myfyrwyr yn graddio gyda dwy radd Meistr a phrofiad trawsddiwylliannol amhrisiadwy.