Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd (Estynedig gydag Université Grenoble Alpes), MA

Darganfyddwch Abertawe yn ein Diwrnod Agored nesaf

Cadwch le heddiw
Student in translation lab

Trosolwg o'r Cwrs

Mae'r radd MA ddwbl hon mewn Cyfieithu Arbenigol a Chyfieithu ar y Pryd yn cael ei chynnig drwy bartneriaeth unigryw rhwng ysgolion cyfieithu uchel eu parch Prifysgol Abertawe ac Université Grenoble Alpes (UGA), sef trydedd brifysgol fwyaf Ffrainc. Mae’n rhoi cyfle i chi astudio a hyfforddi ar gyfer ymarfer proffesiynol mewn dau amgylchedd academaidd gwahanol, a fydd yn datblygu eich rhwydweithiau cyfieithu yn y ddwy wlad.

Mae'r radd MA Ddwbl hon ar gael i ymgeiswyr â chymhwysedd ieithyddol brodorolyn Saesneg ac yn Ffrangeg yn unig, neu i’r rhai sy’n agos at y safon honno, ac mae'n cyfuno elfennau allweddol MA mewn Cyfieithu Proffesiynol Abertawe (Blwyddyn 1) a gradd Meistr LEA parcours Traduction spécialisée Université Grenoble Alpes (Blwyddyn 2), y cynlluniwyd y ddwy ohonynt i gyflawni'r ystod gyflawn o gymwyseddau proffesiynol a amlinellwyd yn Fframwaith Cymwyseddau 2017 yr EMT. Mae'r radd MA Ddwbl ar gael i ieithyddion rhagorol, p'un a yw eu cymwysterau yn gysylltiedig ag ieithoedd neu mewn meysydd pwnc eraill lle maent yn cynllunio datblygu arbenigedd cyfieithu. Wrth gwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus, bydd myfyrwyr yn graddio â graddau Meistr o'r ddwy brifysgol. Yn ogystal â'r Saesneg a'r Ffrangeg, gall myfyrwyr hefyd ddewis astudio cyfieithu yn naill ai'r Almaeneg neu'r Sbaeneg, mewn cyfuniad â'r Saesneg ym Mlwyddyn 1 a'r Ffrangeg ym Mlwyddyn 2.

Nifer gyfyngedig iawn o leoedd sydd a chânt eu dyrannu ar sail teilyngdod gan Fwrdd Astudiaethau ar y Cyd, ar sail y ffurflen gais a'r trawsgrifiad(au), geirdaon a chyfweliad (yn ôl yr angen). Caiff ffioedd eu talu ar gyfradd bresennol myfyrwyr y DU, Ewrop neu ryngwladol i’r sefydliad lle rydych chi'n astudio ar y pryd (h.y. i Abertawe ym Mlwyddyn 1, i UGA ym Mlwyddyn 2.

Pam Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd (Estynedig gydag Université Grenoble Alpes) yn Abertawe?

Mae'r radd MA ddwbl hon mewn Cyfieithu Arbenigol a Chyfieithu ar y Pryd yn cael ei chynnig drwy bartneriaeth unigryw rhwng ysgolion cyfieithu uchel eu parch Prifysgol Abertawe ac Université Grenoble Alpes (UGA), sef trydedd brifysgol fwyaf Ffrainc. Mae’n rhoi cyfle i chi astudio a hyfforddi ar gyfer ymarfer proffesiynol mewn dau amgylchedd academaidd gwahanol, a fydd yn datblygu eich rhwydweithiau cyfieithu yn y ddwy wlad.

Mae'r radd MA Ddwbl hon ar gael i ymgeiswyr â chymhwysedd ieithyddol brodorol yn Saesneg ac yn Ffrangeg yn unig, neu i’r rhai sy’n agos at y safon honno, ac mae'n cyfuno elfennau allweddol o radd MA mewn Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd Abertawe (Blwyddyn 1) a gradd Meistr LEA parcours Traduction spécialisée Université Grenoble Alpes (Blwyddyn 2), y cynlluniwyd y ddwy ohonynt i gyflawni'r ystod gyflawn o gymwyseddau proffesiynol a amlinellwyd yn Fframwaith Cymwyseddau 2017 yr EMT. Mae'r radd MA Ddwbl ar gael i ieithyddion rhagorol, p'un a yw eu cymwysterau yn gysylltiedig ag ieithoedd neu mewn meysydd pwnc eraill lle maent yn cynllunio datblygu arbenigedd cyfieithu. Wrth gwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus, bydd myfyrwyr yn graddio â graddau Meistr o'r ddwy brifysgol. Yn ogystal â'r Saesneg a'r Ffrangeg, gall myfyrwyr hefyd ddewis astudio cyfieithu yn naill ai'r Almaeneg neu'r Sbaeneg, mewn cyfuniad â'r Saesneg ym Mlwyddyn 1 a'r Ffrangeg ym Mlwyddyn 2.

Nifer gyfyngedig iawn o leoedd sydd a chânt eu dyrannu ar sail teilyngdod gan Fwrdd Astudiaethau ar y Cyd, ar sail y ffurflen gais a'r trawsgrifiad(au), geirdaon a chyfweliad (yn ôl yr angen). Caiff ffioedd eu talu ar gyfradd bresennol myfyrwyr y DU, Ewrop neu ryngwladol i’r sefydliad lle rydych chi'n astudio ar y pryd (h.y. i Abertawe ym Mlwyddyn , i UGA ym Mlwyddyn 2.

Eich Profiad Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd (Estynedig gydag Université Grenoble Alpes)

Blwyddyn 1, Abertawe (120 o gredydau/60 ECTS)

Modiwlau Gorfodol: Gwaith cyfieithu uwch yn Ffrangeg a Saesneg (gallwch ddewis Almaeneg neu Sbaeneg a Saesneg hefyd ) wedi'i ategu gan hyfforddiant mewn offer Cyfieithu â Chymorth Cyfrifiadur (CAT) o safon y proffesiwn (MLRM03). Mae'r modiwl 'Sylfeini (MLTM05) yn cynnwys damcaniaeth cyfieithu a chyfieithu ar y pryd, gan ddarparu trosolwg o sefyllfa gyfredol y diwydiant gwasanaethau iaith a'i rolau proffesiynol. Rhaid i chi hefyd gymryd y modiwl Cyfieithu ar y Pryd ar gyfer Gwasanaethau Cyhoeddus mewn amgylcheddau gofal iechyd, MLTM07.

Opsiynau: Gallwch ddewis arbenigo mewn  cyfieithu clyweledol (MLTM19), technolegau cyfieithu gan gynnwys offer meddalwedd lleoleiddio (MLTM11) neu reoli terminoleg (MLTM18). Yn y modiwl Efelychu Swyddfa Gyfieithu (MLTM17), rydych chi'n sefydlu ac yn cynnal cwmni cyfieithu realistig, gan weithio gyda darparwr gwasanaethau iaith (LSP) lleol a myfyrwyr MA eraill ledled Ewrop yn y rhwydwaith INSTB. Gallwch hefyd astudio cwrs iaith dwys ar lefel Dechreuwyr neu Ganolradd.. Fel arall, mae Dysgu ac Addysgu Iaith â Chymorth Technoleg (ALEM28) yn darparu sgiliau addysgeg iaith y mae galw mawr amdanynt.

Cyfleoedd Cyflogaeth Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd (Estynedig gydag Université Grenoble Alpes)

Bydd y radd MA alwedigaethol mewn Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd yn gwella eich rhagolygon gyrfa fel ieithydd proffesiynol yn sylweddol. Yn ystod eich astudiaethau, neu eich interniaeth, gallwch wneud cysylltiadau pwysig ar gyfer eich gwaith yn y dyfodol.

Mae graddedigion o’r cwrs hwn yn cyflawni amrywiaeth o rolau cyfieithu a chyfieithu ar y pryd gwahanol. Mae llawer hefyd yn gwneud graddau ymchwil ac yn dilyn gyrfa academaidd.

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.