Trosolwg o'r Cwrs
Bydd yr MA Estynedig mewn Cyfieithu Proffesiynol (MAPT) yn eich helpu i ddatblygu o fod yn siaradwr iaith dramor ardderchog i fod yn ieithydd proffesiynol llwyddiannus.
Mae MAPT (Cyfieithu gyda Thechnoleg Iaith yn flaenorol) yn rhan o Rwydwaith Gradd Meistr mewn Cyfieithu Ewrop, sydd â 64 o aelodau ledled Ewrop ar hyn o bryd. Prifysgol Abertawe yw'r unig aelod yng Nghymru.
Gall y rhaglen 240 credyd hon, sy'n cydymffurfio â Bologna, gael ei hastudio ar sail amser llawn dros gyfnod o 15 i 21 mis, neu'n rhan amser dros bedair blynedd. Gall ail ran y cwrs gael ei hastudio dramor.
Byddwch yn gwneud gwaith cyfieithu uwch mewn un neu ddau bâr o ieithoedd ar destun cyffredinol, gweinyddol a thechnegol, ynghyd â hyfforddiant mewn adnoddau Cyfieithu â Chymorth Cyfrifiadur sy'n cyrraedd safon y diwydiant.
Mae rhan gyntaf y radd yn cynnwys cyfleoedd i feithrin sgiliau arbenigol mewn dehongli i wasanaethau cyhoeddus, cyfieithu clywedol, cyfieithu peirianyddol a lleoli meddalwedd, rheoli terminoleg, creu fideo neu gyhoeddi digidol.
Ymhlith yr opsiynau arbenigol eraill mae dehongli, technolegau pellach, terminoleg, amlgyfryngau ac iaith newydd/canolraddol.
Yn y modiwl profiad gwaith ym maes cyfieithu byddwch yn efelychu cwmnïau cyfieithu drwy weithio gyda busnesau cyfieithu lleol a chyflawni gwaith comisiynu go iawn i safonau proffesiynol.
Yn ail ran y radd cewch ddewis o ddau gyfieithiad estynedig, neu draethawd hir academaidd, neu interniaeth 13 wythnos gyda chwmni cyfieithu yn y DU neu dramor.
Parau iaith (yn amodol ar alw):
- O'r Saesneg i: Arabeg, Tsieinëeg (Mandarin), Ffrangeg, Almaeneg, Eidaleg, Sbaeneg, Cymraeg
- I'r Saesneg o: Ffrangeg, Almaeneg, Eidaleg, Sbaeneg, Cymraeg