Trosolwg o'r Cwrs
Os ydych chi'n fyfyriwr peirianneg neu'r gwyddorau ffisegol, bydd ein gradd MSc mewn Ffiseg Ymbelydredd Meddygol yn rhoi'r wybodaeth a'r ddealltwriaeth ddamcaniaethol o agweddau sylfaenol ar ddefnyddio ymbelydredd mewn meddygaeth i wella'ch rhagolygon gyrfa.
Byddwch yn cael ymarfer clinigol drwy gyfarwyddyd ymarferol o'r offer sy'n cael ei ddefnyddio'n gyffredinol mewn lleoliad ysbyty, gan gynnwys cyfleusterau MRI a CT o'r radd flaenaf, a chyflymyddion unionlin meddygol, a fydd yn eich paratoi ar gyfer hyfforddiant ymchwil neu glinigol yn y maes hwn sy'n datblygu'n yn gyflym. Byddwch yn derbyn hyfforddiant mewn modelu â chymorth cyfrifiadurol, methodoleg ymchwil a'r agweddau moesegol sy'n gysylltiedig ag ymchwil feddygol.
Mae'r radd hon yn baratoad perffaith ar gyfer ymchwil ôl-raddedig mewn technoleg ffiseg feddygol ac mae hefyd yn llwybr tuag at gofrestriad gwladol fel gwyddonydd clinigol.
Mae'r cwrs hwn wedi'i achredu gan y Sefydliad Ffiseg a Pheirianneg mewn Meddygaeth (IPEM), sy'n cefnogi gwyddonwyr clinigol a thechnolegwyr yn eu hymarfer trwy ddarparu ac asesu addysg a hyfforddiant.