Mae’n bosib eich bod yn gymwys i gael cymorth ariannol tuag at eich astudiaethau.
Os ydych yn fyfyriwr y DU neu'r UE sy’n dechrau ar radd Meistr ym Mhrifysgol Abertawe, efallai y byddwch yn gymwys i gyflwyno cais am arian gan y Llywodraeth i helpu tuag at gostau eich astudiaethau.
I gael mwy o wybodaeth, ewch i'n tudalen benthyciadau Ôl-raddedig.
I gael gwybod am ysgoloriaethau, bwrsariaethau a chyfleoedd eraill am gymorth ariannol sydd ar gael, ewch i dudalen
ysgoloriaethau a bwrsariaethau'r Brifysgol.
Mae ysgoloriaethau a bwrsariaethau hael ar gael gan Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar gyfer myfyrwyr sy'n dymuno astudio trwy gyfrwng y Gymraeg neu'n ddwyieithog.
I ddysgu mwy am y cyfleoedd sydd ar gael i chi, ewch i dudalen Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau Academi Hywel Teifi
Myfyrwyr cartref, UE a rhyngwladol
|
2023/24
|
Graddedigion LLB Prifysgol Abertawe
|
£2,000
|
Cyn-fyfyrwyr prifysgolion yng Nghymru
|
£1,500
|
Graddedigion GDL Prifysgol Abertawe
|
£2,000
|
Nid yw ymgeiswyr sy'n gymwys i gael un o fwrsariaethau'r Ysgol yn gymwys i gael unrhyw ddyfarniadau eraill gan Brifysgol Abertawe. Dylai ymgeiswyr ystyried yn ofalus p'un ai un o fwrsariaethau'r Ysgol neu un o fwrsariaethau'r Brifysgol sydd fwyaf buddiol iddynt a gwneud penderfyniad yn unol â hynny.
Sylwer bod y bwrsariaethau presennol sy’n cael eu harddangos ar gyfer y flwyddyn academaidd 23/24 a gallent newid yn y dyfodol.