Trosolwg o'r Cwrs
Os ydych yn anelu at yrfa yng Nghymru neu Loegr, bydd angen y cwrs hwn arnoch.
Mae'r Cwrs Ymarfer Cyfreithiol (LPC) yn hanfodol i unrhyw un sydd am gymhwyso fel cyfreithiwr yn y ddwy wlad, a bydd yn sicrhau eich bod yn meddu ar y sgiliau ymarferol a'r hyder sydd eu hangen arnoch ar gyfer gyrfa yn y proffesiwn cyffrous a heriol hwn.
Caiff y cwrs ei addysgu'n llwyr gan gyfreithwyr a bargyfreithwyr profiadol, ac fe'i cynlluniwyd ar gyfer graddedigion y gyfraith a'r rheini sydd eisoes wedi ennill Diploma yn y Gyfraith i Raddedigion. Mae'n pontio'r bwlch rhwng astudiaethau academaidd a hyfforddiant ymarferol.
Os ydych chi wedi graddio yn y Gyfraith neu bwnc arall ac am baratoi ar gyfer yr Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr, edrychwch ar ein hystod lawn o gyrsiau proffesiynol a chyrsiau trosi.