Trosolwg o'r Cwrs
Ydych chi'n fedrus wrth ymdrin â ffigurau, ac yn awyddus i ddilyn gyrfa mewn cyfrifeg neu gyllid? Mae'r MSc mewn Cyfrifeg a Chyllid ym Mhrifysgol Abertawe yn medru arwain at broffesiynau poblogaidd lle mae swyddi'n ddiogel, mae'r cyfraddau tâl yn dda ac mae rolau diddorol ar gael ar draws amrywiaeth o sectorau, gan ddarparu'r cyfleoedd rydych chi wedi bod yn chwilio amdanynt.
Bydd y rhaglen hon yn eich helpu i ddatblygu dealltwriaeth well a manwl am bynciau cyfrifeg a chyllid allweddol a fydd yn symud eich rhagolygon gyrfa yn y dyfodol ymlaen yn gynt.
Nid oes angen i chi fod â chefndir mewn cyfrifeg na chyllid er mwyn astudio'r cwrs trosi un flwyddyn hwn, oherwydd bod y cwrs wedi'i ddylunio i ehangu ar y profiad astudio israddedig sydd gennych eisoes, a rhoi'r cyfle i chi symud ymlaen yn gynt i'r proffesiwn o'ch dewis, a allai fod unrhyw le yn y byd.
Hefyd, mae ein partneriaethau agos gyda chyrff proffesiynol blaenllaw yn golygu y gallwch ennill eithriadau a chymwysterau sy'n cael eu cydnabod ym myd diwydiant ac sy'n cryfhau eich CV, ac yn gwella eich cyfle o lwyddo i gael rolau ar lefel raddedig mewn cyfrifeg a chyllid.