Trosolwg o'r Cwrs
Oes gennych chi awydd i ddylanwadu ar ddyfodol cyllid a data? Mae ein gradd MSc mewn Cyllid a Dadansoddeg Data Mawr yn rhoi'r offer i chi ddadansoddi marchnadoedd, rheoli risg ac ysgogi arloesedd.
Mae ein cwrs MSc mewn Cyllid a Dadansoddeg Data Mawr ym Mhrifysgol Abertawe wedi'i ddylunio i integreiddio egwyddorion allweddol cyllid a dadansoddeg data, gan roi'r wybodaeth a'r sgiliau technegol i chi wneud penderfyniadau cyllid yn seiliedig ar ddata a dadansoddi deinameg marchnadoedd cymhleth.
Gan adfyfyrio ar ofynion esblygiadol y sector cyllid byd-eang, mae'r rhaglen yn darparu sylfaen gref mewn marchnadoedd cyllid, dulliau meintiol, a chymwysiadau data mawr, a fydd yn eich paratoi chi ar gyfer gyrfa ddeinamig yn y diwydiant cyllid, gan gynnwys mewn rolau fel dadansoddwr cyllid, arbenigwr rheoli risg, neu ymgynghorydd dadansoddi data.
Drwy astudio'r cwrs hwn, byddwch yn gallu ymgysylltu'n feirniadol ag ystyriaethau moesegol, cymdeithasol a chynaliadwyedd sy'n ymwneud â defnyddio data mawr mewn cyllid, gan hyrwyddo gwneud penderfyniadau cyfrifol a gwybodus.
Mae'r rhaglen drosi blwyddyn o hyd hon yn croesawu myfyrwyr o unrhyw gefndir. Nid oes angen i chi feddu ar gefndir mewn cyfrifeg, cyllid neu fusnes i astudio'r cwrs blwyddyn o hyd hwn. Mae'r cwricwlwm yn adeiladu ar addysgu israddedig ac yn eich galluogi i drosglwyddo'n gyflym i yrfaoedd proffesiynol mewn cyllid, dadansoddi data neu feysydd cysylltiedig unrhyw le yn y byd.