Trosolwg o'r Cwrs
Camwch i fyd cyllid byd-eang gyda gradd meistr sydd ag uchelgais wrth ei gwraidd.
Mae'r MSc Cyllid ym Mhrifysgol Abertawe yn rhaglen ôl-raddedig ddeinamig a thrwyadl sydd â'r nod o roi i chi'r arbenigedd dadansoddol, y persbectif moesegol a byd-eang, a'r sgiliau ymarferol sydd eu hangen i lwyddo ym myd cyllid rhyngwladol sy'n datblygu'n gyflym.
Byddwch yn archwilio sut mae marchnadoedd ariannol rhyngwladol yn gweithredu, sut mae sefydliadau'n rheoli risgiau a sut mae penderfyniadau a ysgogir gan ddata'n llunio strategaeth gorfforaethol. Byddwch hefyd yn datblygu galluoedd uwch mewn dadansoddi ariannol a modelu econometreg, ac yn meithrin dealltwriaeth hanfodol o gyllid corfforaethol, rheoli portffolios a dadansoddeg risg.
Yr hyn sy'n gwneud y rhaglen hon yn wahanol yw ei chymysgedd o ddamcaniaeth, technoleg a pherthnasedd i'r byd go iawn. Byddwch yn gweithio'n uniongyrchol gyda chronfeydd data ariannol, efelychiadau masnachu ac offer rhaglennu sy'n adlewyrchu ymarfer go iawn ym myd diwydiant.
Nod yr MSc Cyllid yw bodloni disgwyliadau cyflogwyr a chyrff proffesiynol drwy greu graddedigion a chanddynt sgiliau technoleg datblygedig ynghyd ag ymwybyddiaeth foesegol a byd-eang, sy'n barod i gyflawni rolau effaith uchel mewn amryw amgylcheddau ariannol cymhleth megis bancio buddsoddi, rheoli asedau, ymgynghoriaeth ariannol a sefydliadau rheoleiddio.
Os ydych chi'n barod i arwain, arloesi a chreu effaith yn y sector cyllid, dyma'r rhaglen i chi.