Trosolwg o'r Cwrs
Hoffech chi weithio yng nghwmnïau ariannol y dyfodol lle mai data mawr yw'r brenin?
Mae'r cwrs Cyllid a Dadansoddeg Data Mawr ym Mhrifysgol Abertawe wedi'i gynllunio i gyfuno meysydd allweddol cyllid a dadansoddeg busnes. Mae’r rhaglen hon yn defnyddio dulliau sy'n seiliedig ar ddata i ddadansoddi gwybodaeth sefydliadol a gwybodaeth am y marchnadoedd ariannol. Mae'r radd yn ymdrin ag egwyddorion allweddol cyllid, modelu ariannol a marchnadoedd ariannol i'ch paratoi am yrfa ddynamig mewn cyllid, bancio ac amrywiaeth o sectorau eraill.
Does dim angen cefndir mewn cyfrifeg, cyllid neu fusnes arnoch i astudio'r cwrs trosi blwyddyn o hyd hwn. Mae wedi'i gynllunio i adeiladu ar eich astudiaethau israddedig a rhoi llwybr carlam i’ch galluogi i ffynnu yn y proffesiwn rydych wedi'i ddewis, unrhyw le yn y byd.
Hefyd mae'r rhaglen yn cael ei hachredu gan y Gymdeithas Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig (ACCA) ac mae’n cynnwys eithriad ar gyfer hyd at dri arholiad sylfaenol yr ACCA. Mae hyn yn seiliedig ar eich dysgu blaenorol ac yn eich atal rhag astudio'r un pynciau rydych eisoes wedi'u dysgu.
Yn ogystal, mae gan yr Ysgol Reolaeth gysylltiadau cryf â Sefydliad y Dadansoddwyr Ariannol Siartredig (CFA), Sefydliad y Bancwyr Siartredig, Sefydliad Siartredig y Cyfrifwyr Rheoli (CIMA), y Sefydliad Siartredig ar gyfer Gwarantau a Buddsoddi a Sefydliad y Cyfrifwyr Siartredig yn Lloegr a Chymru (ICAEW). Bydd y cysylltiad agos hwn â chyrff proffesiynol yn gwella'ch rhagolygon gyrfa ac yn rhoi mantais i'ch galluogi i ffynnu ym myd cystadleuol heddiw.