Trosolwg o'r Cwrs
Ydych chi’n chwilio am radd arbenigol a fydd yn eich paratoi am yrfa ddynamig fel masnachwr neu reolwr buddsoddi?
Bydd angen ymagwedd bwyllog, sgiliau cyfathrebu gwych a meddylfryd dadansoddol arnoch i lwyddo ym myd cystadleuol rheoli buddsoddiadau. Yn ogystal â dehongli'r marchnadoedd ariannol, bydd angen i chi feithrin perthnasau busnes hirdymor a bod yn benderfynol ac yn hyderus.
Mae'r rhaglen Rheoli Buddsoddiadau ym Mhrifysgol Abertawe yn canolbwyntio ar reoli cyllid a buddsoddiadau a byddwch yn meithrin dealltwriaeth fanwl o reoli asedau a risgiau mewn sefydliadau cymhleth.
Mae'r rhaglen uwch hon yn addas i fyfyrwyr sydd eisoes wedi astudio cyfrifeg a/neu gyllid ar lefel israddedig.
Mae eich gradd wedi'i hachredu gan Sefydliad y Dadansoddwyr Ariannol Siartredig (CFA) ac mae gan y rhaglen statws Prifysgol Gysylltiol. Cewch gyfle hefyd i astudio am gymhwyster arall gan y CFA ochr yn ochr â'ch gradd meistr.
Bydd y cysylltiad agos hwn â'r CFA, cymdeithas fyd-eang o ymarferwyr buddsoddi proffesiynol sy'n pennu safon rhagoriaeth y sector, yn rhoi hwb i'ch rhagolygon gyrfa ac yn eich galluogi i ffynnu ym myd cystadleuol heddiw.