Trosolwg o'r Cwrs
Ydych chi am gael effaith ar gymdeithas?
Ymunwch â ni ar ein MBA newydd: rhaglen wahanol ar gyfer dull gwahanol o reoli
Mae pryder am werthoedd dynol yn ogystal â gwerth rhanddeiliaid wrth wraidd y rhaglen MBA ym Mhrifysgol Abertawe.
Lluniwyd y cwrs i ddysgu sgiliau byd-eang ar gyfer trefnu a chydweithio yn ogystal â chystadlu yn y sector preifat, y sector cyhoeddus a'r trydydd sector i ddysgwyr. Rydym yn rhoi pwyslais ar ddychmygu posibiliadau yn y dyfodol – megis ffurfiau sefydliadol hybrid, arferion busnes newydd a thueddiadau defnyddio cyfrifol – i fodloni'r heriau o sicrhau gwerthoedd dynol mewn adeg gynyddol ansicr o drawsnewidiadau byd-eang.
Athroniaeth ein rhaglen yw mynd i'r afael â'r bwlch rhwng ymarfer a damcaniaeth sy'n gallu bodoli ym maes rheoli. Mae'r rhaglen MBA yn herio myfyrwyr i feddwl yn feirniadol, gan fyfyrio ynghylch damcaniaeth ac arferion rheoli er mwyn nodi lle gellir gwneud newidiadau yn y dirwedd fusnes fyd-eang.
Nod y rhaglen MBA yw codi ymwybyddiaeth am bosibiliadau a chyfyngiadau gwahanol gyfleoedd ar gyfer cynhwysiant, a newidiadau mewn meysydd megis arloesedd creadigol, cymysgrywiaeth sefydliadol, entrepreneuriaeth ac arbrofi er mwyn i raddedigion lywio'r dyfodol.
Yn ogystal â bod ar gael fel cynllun gradd amser llawn am 1 flwyddyn, gall myfyrwyr sy’n chwilio am y gallu i reoli eu hastudiaethau’n hyblyg ochr yn ochr ag ymrwymiadau gwaith a theulu ddewis astudio’r radd ar sail ran-amser. Mae’r cwrs gradd MBA rhan-amser yn dilyn yn union yr un maes llafur â’r cwrs amser llawn ond caiff ei addysgu dros 2 flynedd.