Dyddiad cau: 15 Mai 2024

Gwybodaeth Allweddol

Darparwyr cyllid: Prifysgol Abertawe

Gwybodaeth Allweddol: Meysydd pwnc: Ymddygiad Anifeiliaid, Biogofnodi, Ffisioleg, Endocrinoleg, Metagenomeg  

Dyddiad Dechrau'r Prosiect:  

  • Gorffennaf 2025 (bydd cofrestru'n agor yng nghanol mis Mehefin) 
  • Hydref 2024 (bydd cofrestru'n agor yng nghanol mis Medi)

Goruchwylwyr y prosiect: 

Rhaglen astudio sy'n cydweddu: PhD yn y Gwyddorau Biolegol

Dull astudio: Amser llawn

Disgrifiad o'r prosiect: 

Mae llawer o anifeiliaid yn meithrin perthnasoedd cymdeithasol cadarn gydag unigolion penodol. Er bod y perthnasoedd hyn yn hynod fuddiol, maent hefyd yn gysylltiedig â rhai anfanteision. Er enghraifft, rhaid ceisio cydbwyso straen (byffro cymdeithasol yn erbyn straen gymdeithasol) a throsglwyddo buddion iechyd (mircobiota perfeddol) ac afiechyd (parasitiaid, feirysau). Fodd bynnag, ni wyddys llawer am y mathau gwahanol hyn o gydbwysedd o ganlyniad i'r heriau sy'n gysylltiedig â chasglu data priodol yn y gwyllt. Er mwyn deall y cydbwyseddau hyn, bydd y ddoethuriaeth ryngddisgyblaethol hon yn defnyddio ac yn helaethu set ddata unigryw fyd-eang ar ymddygiad cymdeithasol ac iechyd babŵns gwyllt.  Caiff cymdeithasoldeb ei astudio i raddau digynsail, ar yr un pryd â data ar gyfer 16 o unigolion.  Bydd GPS a choleri olrhain pwrpasol yn darparu gwybodaeth am ymddygiad a rhyngweithiadau cymdeithasol/agosrwydd bob eiliad dros gyfnod o sawl mis. Daw gwybodaeth iechyd o >350 o samplau troeth a >600 o samplau ysgarthol a gesglir yn y maes. Caiff y samplau hyn eu paru ag unigolion a chyfnodau amser, gan alluogi archwiliadau anfewnwthiol o ran cyflwr atgenhedlu, ffisioleg straen, swyddogaeth imiwnedd, statws egni a metabolaidd, llwyth parasitiaid a chyfansoddiad microbiom.  Bydd cyfuno'r data ynghylch cymdeithasoldeb babŵns â’r data ynghylch iechyd babŵns yn cynnig cyfle prin i archwilio sut a pham y mae perthnasoedd cymdeithasol yn datblygu a'u canlyniadau ar gyfer iechyd unigolion. 

Cymhwyster

Rhaid i ymgeiswyr feddu ar radd israddedig ail ddosbarth uwch yn y Biowyddorau neu bwnc cysylltiedig, neu radd meistr gydag isafswm radd gyffredinol o 'Deilyngdod' (neu gymhwyster cyfatebol o'r tu allan i'r Deyrnas Unedig fel y'i diffinnir gan Brifysgol Abertawe) (gweler cymwysterau penodol i wledydd). Sylwer y gall fod angen i chi gyflwyno tystiolaeth o'ch rhuglder yn yr iaith Saesneg.

Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol radd lefel meistr yn ogystal â diddordebau ac arbenigedd ymchwil mewn ymddygiad a ffisioleg anifeiliaid, ynghyd â sgiliau trin data rhagorol a sgiliau dadansoddi sy'n berthnasol i'r prosiect.  Rydym hefyd yn annog ceisiadau gan ymgeiswyr a chanddynt gefndir meintiol cadarn heb radd gyntaf mewn bioleg. Cysylltwch â ni am ragor o fanylion. 

Oherwydd cyfyngiadau cyllido, ar hyn o bryd mae'r ysgoloriaeth hon ar gael i ymgeiswyr sy'n gymwys i dalu ffioedd dysgu ar gyfradd y Deyrnas Unedig yn unig, fel y diffiniwyd ganreoliadau UKCISA. 

Os oes gennych gwestiynau am eich cymhwysedd academaidd neu ffïoedd ar sail yr uchod, e-bostiwch pgrscholarships@abertawe.ac.uk gan gynnwys y ddolen we i'r ysgoloriaeth(au) sydd o ddiddordeb i chi. 

Cyllid

Mae'r ysgoloriaeth ymchwil hon yn talu'r holl ffïoedd dysgu gan gynnwys cyflog blynyddol ar raddfa UKRI (sef £18,622 ar gyfer 2023/24 ar hyn o bryd).

Bydd treuliau ymchwil ychwanegol ar gael hefyd.

Sut i wneud cais

I gyflwyno cais, cwblhewch eich cais ar-lein gan fewnbynnu'r wybodaeth ganlynol:

  1. Dewis Cwrs –  dewiswch Gwyddorau Biolegol / Ph.D./ Amser llawn / 3 Blynedd / Gorffennaf (neu Hydref)

Os ydych chi eisoes wedi cyflwyno cais am y rhaglen hon, mae’n bosib y bydd y system ymgeisio’n rhoi hysbysiad rhybuddio a’ch atal rhag cyflwyno cais. Os bydd hyn yn digwydd, e-bostiwch pgrscholarships@abertawe.ac.uk lle bydd staff yn hapus i’ch helpu i gyflwyno eich cais.

  1. Blwyddyn dechrau - Dewiswch 2024 
  2. Cyllid (tudalen 8) -
  • 'Ydych chi’n ariannu'ch astudiaethau eich hun?' - dewiswch Nac ydw
  • 'Rhowch enw'r unigolyn neu'r sefydliad sy'n darparu'r cyllid astudio' - nodwch ‘RS562 - Baboon Sociality & Health'

*Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw rhestru’r wybodaeth uchod yn gywir wrth gyflwyno cais. Sylwer na chaiff ceisiadau sy’n cael eu derbyn heb yr wybodaeth uchod eu hystyried am yr ysgoloriaeth.

Mae angen cyflwyno un cais yn unig ar gyfer pob dyfarniad ysgoloriaeth ymchwil a arweinir gan Brifysgol Abertawe; ni fydd ceisiadau sy’n rhestru mwy nag un dyfarniad ysgoloriaeth ymchwil a arweinir gan Brifysgol Abertawe yn cael eu hystyried.

Rydym ni’n eich annog chi i gwblhau’r canlynol i gefnogi ein hymrwymiad ni i ddarparu amgylchedd nad yw’n cynnwys unrhyw wahaniaethu ac sy’n dathlu amrywiaeth ym Mhrifysgol Abertawe: 

Fel rhan o'ch cais ar-lein, RHAID i chi lanlwytho'r dogfennau canlynol (peidiwch ag anfon y rhain drwy e-bost). Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn darparu'r dogfennau a restrir erbyn y dyddiad cau a hysbysebir lle bynnag y bo modd:

  • CV
  • Tystysgrifau gradd a thrawsgrifiadau (os ydych chi'n astudio am radd ar hyn o bryd, bydd cipluniau o'ch graddau hyd heddiw'n ddigonol)
  • Llythyr eglurhaol gan gynnwys 'Datganiad Personol Atodol' i esbonio pam mae'r swydd yn cydweddu'n benodol â'ch sgiliau a'ch profiad a sut byddech chi'n dewis i ddatblygu'r prosiect.
  • Dau eirda academaidd (academaidd neu gyflogwr blaenorol) ar bapur swyddogol neu gan ddefnyddio ffurflen eirda Prifysgol Abertawe. Sylwer nad ydym yn gallu derbyn geirda sy'n cynnwys cyfrif e-bost personol e.e. Hotmail. Dylai canolwyr nodi eu cyfeiriad e-bost proffesiynol er mwyn dilysu'r geirda.
  • Tystiolaeth o fodloni gofynion Iaith Saesneg (lle bo'n briodol).
  • Copi o fisa preswylydd y DU (lle bo'n briodol)
  • Cadarnhad o gyflwyno ffurflen Cydraddoldeb Amrywiaeth a Chynhwysiant (Dewisol)

Os oes gennych chi ymholiadau, cysylltwch â Dr Ines Fürtbauer (i.fuertbauer@abertawe.ac.uk).

*Rhannu Data Ceisiadau â Phartneriaid Allanol - Sylwer, fel rhan o'r broses dethol ceisiadau am ysgoloriaethau, efallai byddwn yn rhannu data â phartneriaid allanol y tu allan i'r Brifysgol, pan gaiff prosiect ysgoloriaeth ei ariannu ar y cyd.