Dyddiad cau: 3 Mehefin 2024

Gwybodaeth Allweddol

Darparwr cyllid: Llywodraeth Cymru

Meysydd pwnc: Doethuriaeth mewn Gweinyddu Busnes (seiliedig ar werth)

Dyddiad Dechrau'r Prosiect: 

  • 1 Hydref 2024 (bydd cofrestru'n agor yng nghanol mis Medi) 

Goruchwylwyr: I'w cadarnhau ar adeg derbyn

Rhaglen astudio gysylltiedig: DBA

Dull Astudio: Rhan-amser

Disgrifiad o'r prosiect:

O ganlyniad i newid wrth ddyrannu cyllid, mae modd i ni gynnig nifer cyfyngedig o ysgoloriaethau i dalu ffioedd llawn, sydd ar gael yn benodol i'r sawl sy'n ymchwilio i brosiectau ym maes Iechyd a Gofal sy'n seiliedig ar Werth.

Mae DBA Ysgol Reolaeth Abertawe yn ddoethuriaeth broffesiynol ran-amser a gynlluniwyd ar gyfer uwch-reolwyr ac arweinwyr ym mhob sector, preifat, cyhoeddus a'r sector nid er elw.

Ar y rhaglen hon, bydd dysgwyr yn ymgymryd ag ymchwil gymhwysol, gan ddefnyddio damcaniaeth sefydledig ac arloesol i ymdrin â materion ymarferol eu sefydliadau. Byddwch yn datblygu ac yn cyfoethogi ymarfer yn eich maes yn ogystal â chyfrannu at ein dealltwriaeth o sylfaen ddamcaniaethol y gwaith.

Mae ymagwedd strwythuredig DBA Abertawe yn seiliedig ar chwe modiwl dros dair blynedd, cyfuniad o ddarlithoedd, siaradwyr gwadd, trafodaethau mewn gweithdai a chyflwyniadau myfyrwyr. Byddwch yn datblygu  traethawd ymchwil y ddoethuriaeth dan arweiniad tîm goruchwylio a gaiff ei ddynodi ar ddechrau'r rhaglen.

Mae DBA Ysgol Reolaeth Abertawe wedi'i chynllunio i feithrin meddylwyr ac ymarferwyr beirniadol a fydd yn myfyrio ar eu heffaith ar eu sefydliadau a chymdeithas ehangach.

BLOCIAU ADDYSGU DWYS
Er bod y DBA wedi'i llywio gan ymchwil a'r gwaith yn cael ei gynnal o bell, bydd pob modiwl yn cael ei strwythuro yn unol â bloc addysgu dwys am dri diwrnod. Mae hyn yn golygu y bydd yn ofynnol i chi ddod i seminarau a gweithdai wyneb yn wyneb ddwywaith y flwyddyn ar ein Campws y Bae yn Abertawe.

Ar gyfer y rhai sy'n cofrestru ym mis Hydref 2024, mae'n debygol y cewch eich sesiynau wyneb yn wyneb am dri diwrnod yn ystod y misoedd canlynol:

  • Tachwedd 2024
  • Mai 2025

Cymhwyster

Fel arfer rhaid i ymgeiswyr am y DBA feddu ar radd israddedig o brifysgol gymeradwy a rhaid eu bod wedi ennill ail ddosbarth uwch (2:1) neu’n uwch, neu gymhwyster cyfwerth. Hefyd, fel arfer bydd gan ymgeiswyr radd meistr neu gymhwyster tebyg o brifysgol gymeradwy, neu dylent fod yn astudio am gymhwyster o'r fath. Os wyt ti'n gymwys i gyflwyno cais am ysgoloriaeth (h.y. myfyriwr sy'n gymwys i dalu ffïoedd dysgu'r DU) ond nid oes gennyt radd yn y DU, gelli di wirio dy ofynion mynediad cymaradwy (gweler cymwysterau penodol i wledydd). Sylwer bod angen iti ddarparu tystiolaeth o'th hyfedredd Iaith Saesneg.

Fel arfer disgwylir y bydd gan ymgeiswyr o leiaf bum mlynedd o brofiad mewn rôl uwch.

Bydd dau gynrychiolydd o dîm arweinyddiaeth y rhaglen (gan gynnwys cyfarwyddwr y rhaglen fel arfer) yn cyfweld â'r holl ymgeiswyr, a disgwylir i ymgeiswyr ddangos y dyfalbarhad a'r gallu deallusol i ymgymryd â'r DBA.

Yn ogystal â chymwysterau academaidd, gall penderfyniadau ynghylch derbyn fod yn seiliedig ar ffactorau eraill gan gynnwys y canlynol (ac eraill): safon y crynodeb/cynnig ymchwil, perfformiad mewn cyfweliad, cystadleuaeth ddwys ar gyfer nifer cyfyngedig o leoedd, a phrofiad proffesiynol perthnasol. 

Oherwydd cyfyngiadau cyllido, ar hyn o bryd mae'r ysgoloriaeth hon ar gael i ymgeiswyr sy'n gymwys i dalu ffioedd dysgu ar gyfradd y Deyrnas Unedig yn unig, fel y diffiniwyd gan reoliadau UKCISA

Os oes gennych chi gwestiynau ynghylch eich cymhwysedd academaidd yn seiliedig ar y gymhariaeth uchod, e-bostiwch pgrscholarships@abertawe.ac.uk gan gynnwys y ddolen we ar gyfer yr ysgoloriaeth(au) sydd o ddiddordeb i chi. 

Fel rhan o'r rhaglen hon, mae modd i ni gynnig sawl ysgoloriaeth i dalu ffioedd llawn i ddysgwyr proffesiynol ledled Cymru, gan weithio gyda'r sefydliadau canlynol:

  • GIG Cymru 
  • Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdod Lleol
  • Sefydliadau Gofal Cymdeithasol yng Nghymru
  • Sefydliadau Trydydd Sector yng Nghymru

Cyllid

Mae'r ysgoloriaeth hon yn talu cost lawn ffïoedd dysgu’r DU.

Sut i wneud cais

I gyflwyno cais, cwblhewch eich cais ar-lein gan fewnbynnu'r wybodaeth ganlynol:

  1. Dewis Cwrs –  dewiswch Doethur mewn Gweinyddu Busnes / DBA / Rhan-amser / 4 Blynedd / Hydref

Os ydych chi eisoes wedi cyflwyno cais am y rhaglen hon, mae’n bosib y bydd y system ymgeisio’n rhoi hysbysiad rhybuddio a’ch atal rhag cyflwyno cais. Os bydd hyn yn digwydd, e-bostiwch pgrscholarships@abertawe.ac.uk lle bydd staff yn hapus i’ch helpu i gyflwyno eich cais.

  1. Blwyddyn dechrau - Dewiswch 2024
  2. Cyllid (tudalen 8) -
  • 'Ydych chi’n ariannu'ch astudiaethau eich hun?' - dewiswch Nac ydw
  • 'Rhowch enw'r unigolyn neu'r sefydliad sy'n darparu'r cyllid astudio' - nodwch ‘RS597 - Health and Care’

*Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw rhestru’r wybodaeth uchod yn gywir wrth gyflwyno cais. Sylwer na chaiff ceisiadau sy’n cael eu derbyn heb yr wybodaeth uchod eu hystyried am yr ysgoloriaeth.

Mae angen cyflwyno un cais yn unig ar gyfer pob dyfarniad ysgoloriaeth ymchwil a arweinir gan Brifysgol Abertawe; ni fydd ceisiadau sy’n rhestru mwy nag un dyfarniad ysgoloriaeth ymchwil a arweinir gan Brifysgol Abertawe yn cael eu hystyried.

Rydym ni’n eich annog chi i gwblhau’r canlynol i gefnogi ein hymrwymiad ni i ddarparu amgylchedd nad yw’n cynnwys unrhyw wahaniaethu ac sy’n dathlu amrywiaeth ym Mhrifysgol Abertawe: 

Fel rhan o'ch cais ar-lein, RHAID i chi lanlwytho'r dogfennau canlynol (peidiwch ag anfon y rhain drwy e-bost). Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn darparu'r dogfennau ategol a restrir erbyn y dyddiad cau a hysbysebir. Sylwer, efallai na fydd eich cais yn cael ei ystyried heb y dogfennau a restrir:

  • CV
  • Tystysgrifau gradd a thrawsgrifiadau (os ydych chi'n astudio am radd ar hyn o bryd, bydd cipluniau o'ch graddau hyd heddiw'n ddigonol)
  • Dau eirda academaidd (academaidd neu gyflogwr blaenorol) ar bapur swyddogol neu gan ddefnyddio ffurflen eirda Prifysgol Abertawe. Sylwer nad ydym yn gallu derbyn geirda sy'n cynnwys cyfrif e-bost personol e.e. Hotmail. Dylai canolwyr nodi eu cyfeiriad e-bost proffesiynol er mwyn dilysu'r geirda.
  • Cynnig ymchwil
  • Ffurflen Gais am Ysgoloriaeth Ffioedd Llawn yn seiliedig ar Werth 2023
  • Tystiolaeth o fodloni gofynion Iaith Saesneg (lle bo'n briodol).
  • Copi o fisa preswylydd y DU (lle bo'n briodol)
  • Cadarnhad o gyflwyno ffurflen Cydraddoldeb Amrywiaeth a Chynhwysiant (Dewisol) 

Am ymholiadau, e-bostiwch VBHCAcademy@abertawe.ac.uk.

*Rhannu Data Ceisiadau â Phartneriaid Allanol - Sylwer, fel rhan o'r broses dethol ceisiadau am ysgoloriaethau, efallai byddwn yn rhannu data â phartneriaid allanol y tu allan i'r Brifysgol, pan gaiff prosiect ysgoloriaeth ei ariannu ar y cyd.