Dyddiad cau: 29 Ebrill 2024

Gwybodaeth Allweddol

Darparwyr cyllid: Yr EPSRC a Chyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg Prifysgol Abertawe

Meysydd pwnc: Cemeg Polymerau a Chemeg Carbohydradau a Glycosidau, Bioddeunyddiau, Sylweddau Gwrthficrobaidd

Dyddiad Dechrau'r Prosiect:  

  • 1 Hydref 2024 (bydd cofrestru'n agor yng nghanol mis Medi) 
  • 1 Ionawr 2025 (bydd cofrestru'n agor yng nghanol mis Rhagfyr) 

Goruchwylwyr:  

Rhaglen astudio sy'n cydweddu: PhD mewn Cemeg

Dull astudio: Amser llawn

Disgrifiad o'r prosiect: 

Ceir heterogenedd ffenotypig sylweddol yn y boblogaeth facterol glonaidd ar gyfer ymlynu wrth arwynebau gwahanol. Gall bacteria sydd heb lectinau adlynol hyd yn oed rwymo i gelloedd ac achosi heintiau. Amcan yr ysgoloriaeth ymchwil hon yw canolbwyntio ar ddylunio glycosystemau heterogenaidd sydd â phriodoleddau tameidiol er mwyn targedu poblogaethau bacterol amrywiol ar yr un pryd a chyda mynegai dewis uchel.

Bydd yr ymgeisydd yn defnyddio ymagwedd ryngddisgyblaethol gyffrous, gan ddechrau ym meysydd cemeg polymerau a chemeg carbohydradau a glycosidau i ddylunio glycosystemau tameidiol. Bydd y systemau hyn wedi'u nodweddu'n drylwyr yn labordy modern ein Prifysgol gan ddefnyddio SEM, AFM, a TEM. Caiff effeithiolrwydd y deunyddiau hyn eu hasesu yn erbyn rhywogaethau bacterol gwahanol yn Sefydliad Gwyddor Bywyd Prifysgol Abertawe. Darperir rhaglen hyfforddiant gynhwysfawr gan dîm goruchwylio rhyngddisgyblaethol sydd ag arbenigedd mewn cemeg (Dr Bhatia), cynnyrch naturiol (Dr Loveridge) a microbioleg (yr Athro Wilkinson).

Cymhwyster

Rhaid i ymgeiswyr feddu ar radd israddedig ail ddosbarth uwch neu radd Meistr gydag isafswm radd gyffredinol o 'Deilyngdod' (neu gymhwyster cyfatebol o'r tu allan i'r Deyrnas Unedig fel y'i diffinnir gan Brifysgol Abertawe) (gwelercymwysterau penodol i wledydd). Sylwer y gall fod angen i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hyfedredd Iaith Saesneg. 

Oherwydd cyfyngiadau cyllido, ar hyn o bryd mae'r ysgoloriaeth hon ar gael i ymgeiswyr sy'n gymwys i dalu ffioedd dysgu ar gyfradd y Deyrnas Unedig yn unig, fel y diffiniwyd ganreoliadau UKCISA. 

Os oes gennych gwestiynau am eich cymhwysedd academaidd neu ffïoedd ar sail yr uchod, e-bostiwch pgrscholarships@abertawe.ac.uk gan gynnwys y ddolen we i'r ysgoloriaeth(au) sydd o ddiddordeb i chi. 

Cyllid

Mae'r ysgoloriaeth ymchwil hon yn talu'r holl ffïoedd dysgu gan gynnwys cyflog blynyddol ar £19,237.

Bydd treuliau ymchwil ychwanegol ar gael hefyd.

Sut i wneud cais

I gyflwyno cais, cwblhewch eich cais ar-lein gan fewnbynnu'r wybodaeth ganlynol:

  1. Dewis Cwrs –  dewiswch Cemeg / Ph.D./ Amser llawn / 3 Blynedd / Hydref (neu Ionawr)

Os ydych chi eisoes wedi cyflwyno cais am y rhaglen hon, mae’n bosib y bydd y system ymgeisio’n rhoi hysbysiad rhybuddio a’ch atal rhag cyflwyno cais. Os bydd hyn yn digwydd, e-bostiwch pgrscholarships@abertawe.ac.uk lle bydd staff yn hapus i’ch helpu i gyflwyno eich cais.

  1. Blwyddyn dechrau - Dewiswch 2024 (neu 2025)
  2. Cyllid (tudalen 8) -
  • 'Ydych chi’n ariannu'ch astudiaethau eich hun?' - dewiswch Nac ydw
  • 'Rhowch enw'r unigolyn neu'r sefydliad sy'n darparu'r cyllid astudio' - nodwch ‘RS586 - Chemistry'

*Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw rhestru’r wybodaeth uchod yn gywir wrth gyflwyno cais. Sylwer na chaiff ceisiadau sy’n cael eu derbyn heb yr wybodaeth uchod eu hystyried am yr ysgoloriaeth.

Mae angen cyflwyno un cais yn unig ar gyfer pob dyfarniad ysgoloriaeth ymchwil a arweinir gan Brifysgol Abertawe; ni fydd ceisiadau sy’n rhestru mwy nag un dyfarniad ysgoloriaeth ymchwil a arweinir gan Brifysgol Abertawe yn cael eu hystyried.

Rydym ni’n eich annog chi i gwblhau’r canlynol i gefnogi ein hymrwymiad ni i ddarparu amgylchedd nad yw’n cynnwys unrhyw wahaniaethu ac sy’n dathlu amrywiaeth ym Mhrifysgol Abertawe: 

Fel rhan o'ch cais ar-lein, RHAID i chi lanlwytho'r dogfennau canlynol (peidiwch ag anfon y rhain drwy e-bost):

  • CV
  • Tystysgrifau gradd a thrawsgrifiadau (os ydych chi'n astudio am radd ar hyn o bryd, bydd cipluniau o'ch graddau hyd heddiw'n ddigonol)
  • Llythyr eglurhaol gan gynnwys 'Datganiad Personol Atodol' i esbonio pam mae'r swydd yn cydweddu'n benodol â'ch sgiliau a'ch profiad a sut byddech chi'n dewis i ddatblygu'r prosiect.
  • Dau eirda academaidd (academaidd neu gyflogwr blaenorol) ar bapur swyddogol neu gan ddefnyddio ffurflen eirda Prifysgol Abertawe. Sylwer nad ydym yn gallu derbyn geirda sy'n cynnwys cyfrif e-bost personol e.e. Hotmail. Dylai canolwyr nodi eu cyfeiriad e-bost proffesiynol er mwyn dilysu'r geirda.
  • Tystiolaeth o fodloni gofynion Iaith Saesneg (lle bo'n briodol).
  • Copi o fisa preswylydd y DU (lle bo'n briodol)
  • Cadarnhad o gyflwyno ffurflen Cydraddoldeb Amrywiaeth a Chynhwysiant (Dewisol)

Os oes gennych chi ymholiadau, cysylltwch â Dr Sumati Bhatia (sumati.bhatia@abertawe.ac.uk).

*Rhannu Data Ceisiadau â Phartneriaid Allanol - Sylwer, fel rhan o'r broses dethol ceisiadau am ysgoloriaethau, efallai byddwn yn rhannu data â phartneriaid allanol y tu allan i'r Brifysgol, pan gaiff prosiect ysgoloriaeth ei ariannu ar y cyd.