Dyddiad cau: 1 Mai 2024

Gwybodaeth Allweddol

Darparwyr cyllid: Chyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg Prifysgol Abertawe a No More Marking Ltd

Meysydd pwnc: Deallusrwydd Artiffisial sy'n Canolbwyntio ar Bobl, Optimeiddio, a Gwneud Penderfyniadau

Dyddiad Dechrau'r Prosiect:  

  • 1 Hydref 2024 (bydd cofrestru'n agor yng nghanol mis Medi) 

Goruchwylwyr y Prosiect: 

Rhaglen astudio sy'n cydweddu: PhD mewn Cyfrifiadureg

Dull Astudio: Amser llawn 

Disgrifiad o'r prosiect: 

Ar gyfer y dull dyfarniad cymharol (comparative judgement), sydd wedi ennill tir mewn ysgolion yn y DU dros y degawd diwethaf, mae aseswyr yn dewis yr un gorau o ddau gyflwyniad, yn hytrach na phennu sgôr i'r ddau ohonynt. Mae'r ymagwedd hon yn rhoi llai o faich ar aseswyr ac yn cynnal cywirdeb ar gyfer nifer bach o gyflwyniadau. Yn ddiweddar, gwnaethom ddatblygu dull dysgu gweithredol Bayesaidd o wneud dyfarniadau cymharol (BCJ: https://arxiv.org/abs/2308.13292), er mwyn datrys problem hollbwysig dewis rhwng parau mewn modd sy’n effeithlon o ran rhyngweithiadau, yn ogystal â llunio amcangyfrifon dibynadwy o restrau ac ansicrwydd rhagfynegi.

Yn y prosiect cysylltiedig hwn, am y tro cyntaf, byddwn yn ceisio cynyddu graddfa dyfarniadau cymharol Bayesaidd (BCJ) i ymdrin â miloedd o eitemau (yn hytrach na degau ohonynt), gan eu galluogi i gael eu rhestru a'u graddio ar draws ysgolion ac aseiniadau. Byddwn yn cynnig dulliau newydd o ymgorffori eitemau newydd yn ddeinamig er mwyn eu rhestru mewn dyfarniadau cymharol Bayesaidd mewn modd sy’n effeithlon o ran rhyngweithiadau, a dyfeisio ffyrdd o feithrin dealltwriaeth dysgwyr unigol o'u hynt dros amser o'u cymharu â'u cyfoedion. Byddwn yn gwerthuso'r dulliau hyn i ganfod a ydynt yn effeithiol wrth helpu aseswyr i wneud penderfyniadau gwybodus pan geir ansicrwydd sy'n deillio o brinder ymarferol data a rhyngweithiadau, yn ogystal â rhoi gwybodaeth well i ddysgwyr. Caiff y dulliau hyn eu llunio mewn cydweithrediad ag aseswyr a dysgwyr i sicrhau y byddant yn parhau i fod yn berthnasol ac yn ddefnyddiol ar ôl i'r prosiect gael ei gwblhau.

Cyfleusterau   

Byddai'r myfyriwr yn rhan o grŵp o safon fyd-eang ynghylch deallusrwydd artiffisial sy'n canolbwyntio ar bobl, optimeiddio a gwneud penderfyniadau, wrth i fyfyrwyr PhD eraill weithio ar amrywiaeth o gyd-destunau: er enghraifft, technoleg addysg, cynhyrchu dur, a pheiriannu arfordirol. Bydd yn cael mynediad at glwstwr cyfrifiadura perfformiad uchel sy'n arwain y ffordd yn fyd-eang, â nod 36 chraidd dynodedig i'w ymchwil. 

Yn ogystal, bydd yn rhan o'r garfan ehangach sy'n dechrau ym mis Hydref yng Nghanolfan Hyfforddiant Doethurol EPIC y Cyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol (EPSRC) (Gwella Rhyngweithiadau a Chydweithrediadau Dynol â Systemau wedi'u llywio gan Ddata a Deallusrwydd). Bydd yn gweithio yn y Ganolfan yn y Ffowndri Gyfrifiadol ym Mhrifysgol Abertawe a chaiff gyfleoedd grŵp megis hyfforddiant mewn sgiliau hanfodol, a gwahoddiadau i sgyrsiau â byd diwydiant ac ymweliadau ymchwil preswyl y garfan.

Diwylliant ac amgylchedd

Mae ein grŵp yn Abertawe'n uchelgeisiol ac mae’n cynnwys unigolion llawn cymhelliant. Rydym yn optimistaidd am y dyfodol ac yn gobeithio cyfrannu at wneud y byd yn lle gwell. Yn bwysicaf oll, rydym yn gwerthfawrogi nodweddion dynol megis gostyngeiddrwydd, caredigrwydd, empathi ac angerdd, ac rydym yn ymrwymedig i feithrin amgylchedd cefnogol a chynhwysol. Ein nod yw galluogi aelodau ein grŵp i wireddu eu potensial llawn, ni waeth fo eu cefndir.

Rydym yn eich annog yn gryf i gysylltu â rhai o'n myfyrwyr PhD presennol i gael ymdeimlad o'r amgylchedd, y cyfleusterau a'r diwylliant goruchwylio. Ar gyfer y prosiect penodol hwn, gall darpar fyfyrwyr gysylltu â Mr Andy Gray (445348@abertawe.ac.uk), myfyriwr PhD presennol. 

Cymhwyster

Rhaid i ymgeiswyr feddu ar radd anrhydedd ail ddosbarth uwch (2:1) neu radd Meistr briodol ar lefel gyffredinol ‘Teilyngdod’ o leiaf mewn Cyfrifiadureg, Mathemateg neu bwnc cysylltiedig. Os ydych yn gymwys i gyflwyno cais am yr ysgoloriaeth (h.y. myfyriwr sy'n gymwys i dalu ffïoedd dysgu ar gyfradd y DU), ond nid oes gennych radd o'r DU, gallwch wirio ein gofynion mynediad cymharol (gweler cymwysterau gwledydd penodol).Sylwer y gall fod angen i chi gyflwyno tystiolaeth o'ch rhuglder yn yr iaith Saesneg.

Iaith Saesneg: Sgôr IELTS o 6.5 yn gyffredinol (gydag o leiaf 6.0 ym mhob elfen) neu gymhwyster cyfwerth a gydnabyddir gan Brifysgol Abertawe. Ceir manylion llawn yma am ein polisi Iaith Saesneg, gan gynnwys cyfnod dilysrwydd tystysgrifau. 

Sgiliau a rhinweddau dymunol:

  • Sgiliau rhifiadol a rhaglennu ardderchog;
  • Gwybodaeth am Python;
  • Gwybodaeth am ystadegau Bayesaidd, dysgu peirianyddol ac optimeiddio, neu barodrwydd i ddysgu.

Mae'r ysgoloriaeth ymchwil hon ar agor i ymgeiswyr o unrhyw genedligrwydd.

ATAS  

Sylwer bod y rhaglen yn mynnu bod rhai ymgeiswyr yn cael cymeradwyaeth ATAS. Mae rhagor o fanylion am gymhwysedd ATAS ar gael ar wefan Llywodraeth y DU.     

NID oes rhaid cael cymeradwyaeth ATAS fel rhan o'r broses cyflwyno cais am ysgoloriaeth. Bydd y rhai sy'n llwyddo i sicrhau dyfarniad (fel y bo'n briodol) yn derbyn y manylion ynghylch sut i gyflwyno cais am gymeradwyaeth ATAS ar y cyd â chynnig y cwrs a’r ysgoloriaeth.

Os oes gennyt gwestiynau am dy gymhwystra academaidd neu dy gymhwystra o ran ffioedd ar sail yr hyn sydd uchod, e-bostia pgrscholarships@abertawe.ac.uk ynghyd â'r ddolen i'r ysgoloriaeth(au) y mae gennyt ddiddordeb ynddi/ynddynt.

Cyllid

Mae'r ysgoloriaeth hon yn talu cost lawn ffioedd dysgu ynghyd â chyflog blynyddol o £19,237. 

Bydd costau ymchwil ychwanegol ar gael hefyd.

Myfyrwyr sy'n gymwys am ffïoedd rhyngwladol:

Mae Prifysgol Abertawe yn falch o gynnig  Ysgoloriaeth Rhagoriaeth Ymchwil Ôl-raddedig Rhyngwladol Prifysgol Abertawe (SUIPRES) sy'n talu am y gwahaniaeth rhwng y ffïoedd dysgu Rhyngwladol a'r ffïoedd dysgu Cartref/y DU ar gyfer hyd y rhaglen PhD/Doethuriaeth Broffesiynol. Caiff yr holl ymgeiswyr rhyngwladol eu hystyried am Ysgoloriaeth SUIPRES. Rhoddwn wybod i ti yn dy lythyr cynnig a fydd Ysgoloriaeth SUIPRES yn cael ei gynnig neu beidio.

Sut i wneud cais

I gyflwyno cais, cwblhewch eich cais ar-lein gan fewnbynnu'r wybodaeth ganlynol:

  1. Dewis Cwrs –  dewiswch Cyfrifiadureg / Ph.D./ Amser llawn / 3 Blynedd / Hydref

Os ydych chi eisoes wedi cyflwyno cais am y rhaglen hon, mae’n bosib y bydd y system ymgeisio’n rhoi hysbysiad rhybuddio a’ch atal rhag cyflwyno cais. Os bydd hyn yn digwydd, e-bostiwch pgrscholarships@abertawe.ac.uk lle bydd staff yn hapus i’ch helpu i gyflwyno eich cais.

  1. Blwyddyn dechrau - Dewiswch 2024
  2. Cyllid (tudalen 8) -
  • 'Ydych chi’n ariannu'ch astudiaethau eich hun?' - dewiswch Nac ydw
  • 'Rhowch enw'r unigolyn neu'r sefydliad sy'n darparu'r cyllid astudio' - nodwch ‘RS590 - Elevating Comparative Judgement'

*Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw rhestru’r wybodaeth uchod yn gywir wrth gyflwyno cais. Sylwer na chaiff ceisiadau sy’n cael eu derbyn heb yr wybodaeth uchod eu hystyried am yr ysgoloriaeth.

Mae angen cyflwyno un cais yn unig ar gyfer pob dyfarniad ysgoloriaeth ymchwil a arweinir gan Brifysgol Abertawe; ni fydd ceisiadau sy’n rhestru mwy nag un dyfarniad ysgoloriaeth ymchwil a arweinir gan Brifysgol Abertawe yn cael eu hystyried.

Rydym ni’n eich annog chi i gwblhau’r canlynol i gefnogi ein hymrwymiad ni i ddarparu amgylchedd nad yw’n cynnwys unrhyw wahaniaethu ac sy’n dathlu amrywiaeth ym Mhrifysgol Abertawe:  

Fel rhan o'ch cais ar-lein, RHAID i chi lanlwytho'r dogfennau canlynol (peidiwch ag anfon y rhain drwy e-bost). Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn darparu'r dogfennau a restrir erbyn y dyddiad cau a hysbysebir lle bynnag y bo modd:

  • CV
  • Tystysgrifau gradd a thrawsgrifiadau (os ydych chi'n astudio am radd ar hyn o bryd, bydd cipluniau o'ch graddau hyd heddiw'n ddigonol)
  • Llythyr eglurhaol gan gynnwys 'Datganiad Personol Atodol' i esbonio pam mae'r swydd yn cydweddu'n benodol â'ch sgiliau a'ch profiad a sut byddech chi'n dewis i ddatblygu'r prosiect.
  • Dau eirda academaidd (academaidd neu gyflogwr blaenorol) ar bapur swyddogol neu gan ddefnyddio ffurflen eirda Prifysgol Abertawe. Sylwer nad ydym yn gallu derbyn geirda sy'n cynnwys cyfrif e-bost personol e.e. Hotmail. Dylai canolwyr nodi eu cyfeiriad e-bost proffesiynol er mwyn dilysu'r geirda.
  • Tystiolaeth o fodloni gofynion Iaith Saesneg (lle bo'n briodol).
  • Copi o fisa preswylydd y DU (lle bo'n briodol)
  • Cadarnhad o gyflwyno ffurflen Cydraddoldeb Amrywiaeth a Chynhwysiant (Dewisol)

Os oes gennych chi ymholiadau, cysylltwch â  Dr Alma Rahat (a.a.m.rahat@abertawe.ac.uk).

*Rhannu Data Ceisiadau â Phartneriaid Allanol - Sylwer, fel rhan o'r broses dethol ceisiadau am ysgoloriaethau, efallai byddwn yn rhannu data â phartneriaid allanol y tu allan i'r Brifysgol, pan gaiff prosiect ysgoloriaeth ei ariannu ar y cyd.