Dyddiad cau: 1 Mai 2024

Gwybodaeth Allweddol

Darparwyr cyllid: Chyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg Prifysgol Abertawe

Meysydd pwnc: Cyfrifiadureg (Dysgu Peirianyddol/Cydnabod Patrymau o ran cardioleg foleciwlaidd)

Dyddiad Dechrau'r Prosiect:  

  • 1 Gorffennaf 2025 (bydd cofrestru'n agor yng nghanol mis Mehefin) 
  • Hydref 2024 (bydd cofrestru'n agor yng nghanol mis Medi) 

Goruchwylwyr y prosiect: 

Rhaglen astudio sy'n cydweddu: PhD mewn Cyfrifiadureg

Dull astudio: Amser llawn

Disgrifiad o'r prosiect: 

Mae'r prosiect hwn yn cynnig ymagwedd newydd at fapio rhyngweithiadau dynamegol mewn rhwydweithiau celloedd cardiaidd pobl. Mae diffyg cydamseru'n elfen sylfaenol pan fydd rhythm y galon yn methu mewn modd trychinebus, ond nid ydym yn gwybod pa ddigwyddiadau sy'n achosi celloedd i beidio â rhyngweithio â'i gilydd. Gan symud y tu hwnt i ddisgrifiadau arsylwadol aneglur o ymddygiadau rhwydweithiau, bydd y prosiect hwn yn rhoi system newydd ar waith i feintioli'n fanwl gywir wybodaeth sy'n seiliedig ar amser am ryngweithiadau rhwng celloedd. Mae ein hymagwedd yn ymwneud â datblygu fframwaith methodolegol blaengar sy'n defnyddio dysgu peirianyddol i ddiffinio natur gymhleth rhyngweithiadau rhwng celloedd mewn rhwydweithiau o'r fath. Byddwn yn defnyddio setiau data mawr a fideos sy'n deillio o rwydweithiau cellog pobl dan amrywiaeth o gyflyrau arbrofol sydd â'r nod o sefydlogi neu ddadsefydlogi cyplu gweithredol rhwng celloedd yn y rhwydweithiau. Bydd y prosiect yn defnyddio ein harbenigedd wrth ddatblygu algorithmau wedi'u teilwra i gael gafael ar ddata, cydnabod patrymau ac amcangyfrif ansicrwydd ynghylch y data clinigol sydd ar gael. Bydd algorithmau dysgu peirianyddol yn galluogi rhagamcanion newydd ac allosod signalau o setiau data delweddau am ymddygiad rhwydweithiau cellog. Bydd y fframwaith newydd hwn yn ychwanegu gwybodaeth newydd am natur ofodol ac amseryddol diffyg cydamseru rhwng celloedd ac yn cynnig dealltwriaeth ddigynsail o ddynameg rhwydweithiau celloedd cyhyrau'r galon. Bydd allbynnau'r gwaith hwn yn arwain at ddealltwriaeth well o'r digwyddiadau cynnar sy'n tanategu dirywiad gweithredol cyhyrau'r galon, ac yn y pen draw bydd yn llywio diagnosisau ac ymyriadau therapiwtig gwell o ran clefyd y galon.

Cymhwyster

Rhaid i ymgeiswyr feddu ar radd israddedig ar lefel 2.1 mewn Cyfrifiadureg, Mathemateg neu ddisgyblaeth gysylltiedig, neu radd Meistr briodol ar lefel gyffredinol ‘Teilyngdod’ o leiaf (neu gymhwyster cyfatebol o'r tu allan i'r DU, fel y'i diffinnir gan Brifysgol Abertawe). Os ydych yn gymwys i gyflwyno cais am yr ysgoloriaeth (h.y. myfyriwr sy'n gymwys i dalu ffïoedd dysgu ar gyfradd y DU), ond nid oes gennych radd o'r DU, gallwch wirio ein cymhariaeth o ofynion mynediad (gweler cymwysterau gwledydd penodol). Sylwer y gall fod angen i chi gyflwyno tystiolaeth o'ch rhuglder yn yr iaith Saesneg.

Oherwydd cyfyngiadau cyllidoar hyn o bryd mae'r ysgoloriaeth hon ar gael i ymgeiswyr sy'n gymwys i dalu ffioedd dysgu ar gyfradd y Deyrnas Unedig yn unig, fel y diffiniwyd ganreoliadau UKCISA. 

Os oes gennyt gwestiynau am dy gymhwystra academaidd neu dy gymhwystra o ran ffioedd ar sail yr hyn sydd uchod, e-bostia pgrscholarships@abertawe.ac.uk ynghyd â'r ddolen i'r ysgoloriaeth(au) y mae gennyt ddiddordeb ynddi/ynddynt.

Cyllid

Mae'r ysgoloriaeth ymchwil hon yn talu'r holl ffïoedd dysgu gan gynnwys cyflog blynyddol ar raddfa UKRI (sef £18,622 ar gyfer 2023/24 ar hyn o bryd).

Bydd treuliau ymchwil ychwanegol ar gael hefyd.

Sut i wneud cais

I gyflwyno cais, cwblhewch eich cais ar-lein gan fewnbynnu'r wybodaeth ganlynol:

  1. Dewis Cwrs –  dewiswch Cyfrifiadureg / Ph.D./ Amser llawn / 3 blynedd / Gorffennaf (neu Hydref)

Os ydych chi eisoes wedi cyflwyno cais am y rhaglen hon, mae’n bosib y bydd y system ymgeisio’n rhoi hysbysiad rhybuddio a’ch atal rhag cyflwyno cais. Os bydd hyn yn digwydd, e-bostiwch pgrscholarships@abertawe.ac.uk lle bydd staff yn hapus i’ch helpu i gyflwyno eich cais.

  1. Blwyddyn dechrau - Dewiswch 2024
  2. Cyllid (tudalen 8) -
  • 'Ydych chi’n ariannu'ch astudiaethau eich hun?' - dewiswch Nac ydw
  • 'Rhowch enw'r unigolyn neu'r sefydliad sy'n darparu'r cyllid astudio' - nodwch ‘RS585 - Machine Learning'

*Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw rhestru’r wybodaeth uchod yn gywir wrth gyflwyno cais. Sylwer na chaiff ceisiadau sy’n cael eu derbyn heb yr wybodaeth uchod eu hystyried am yr ysgoloriaeth.

Mae angen cyflwyno un cais yn unig ar gyfer pob dyfarniad ysgoloriaeth ymchwil a arweinir gan Brifysgol Abertawe; ni fydd ceisiadau sy’n rhestru mwy nag un dyfarniad ysgoloriaeth ymchwil a arweinir gan Brifysgol Abertawe yn cael eu hystyried.

Rydym ni’n eich annog chi i gwblhau’r canlynol i gefnogi ein hymrwymiad ni i ddarparu amgylchedd nad yw’n cynnwys unrhyw wahaniaethu ac sy’n dathlu amrywiaeth ym Mhrifysgol Abertawe: 

Fel rhan o'ch cais ar-lein, RHAID i chi lanlwytho'r dogfennau canlynol (peidiwch ag anfon y rhain drwy e-bost). Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn darparu'r dogfennau a restrir erbyn y dyddiad cau a hysbysebir lle bynnag y bo modd:

  • CV
  • Tystysgrifau gradd a thrawsgrifiadau (os ydych chi'n astudio am radd ar hyn o bryd, bydd cipluniau o'ch graddau hyd heddiw'n ddigonol)
  • Llythyr eglurhaol gan gynnwys 'Datganiad Personol Atodol' i esbonio pam mae'r swydd yn cydweddu'n benodol â'ch sgiliau a'ch profiad a sut byddech chi'n dewis i ddatblygu'r prosiect.
  • Dau eirda academaidd (academaidd neu gyflogwr blaenorol) ar bapur swyddogol neu gan ddefnyddio ffurflen eirda Prifysgol Abertawe. Sylwer nad ydym yn gallu derbyn geirda sy'n cynnwys cyfrif e-bost personol e.e. Hotmail. Dylai canolwyr nodi eu cyfeiriad e-bost proffesiynol er mwyn dilysu'r geirda.
  • Tystiolaeth o fodloni gofynion Iaith Saesneg (lle bo'n briodol).
  • Copi o fisa preswylydd y DU (lle bo'n briodol)
  • Cadarnhad o gyflwyno ffurflen Cydraddoldeb Amrywiaeth a Chynhwysiant (Dewisol) 

Os oes gennych chi ymholiadau, cysylltwch â Dr Fabio Caraffini (Fabio.caraffini@abertawe.ac.uk).

*Rhannu Data Ceisiadau â Phartneriaid Allanol - Sylwer, fel rhan o'r broses dethol ceisiadau am ysgoloriaethau, efallai byddwn yn rhannu data â phartneriaid allanol y tu allan i'r Brifysgol, pan gaiff prosiect ysgoloriaeth ei ariannu ar y cyd.