Dyddiad cau: 1 Mai 2024

Gwybodaeth Allweddol

Ysgoloriaeth PhD Prifysgol Abertawe wedi'i Hariannu'n Llawn: Gate-oxide reliability of wide bandgap power MOSFETs: offline prediction of lifetime and online monitoring of degradation

Darparwyr cyllid: Prifysgol Abertawe

Meysydd pwnc: Peirianneg Electronig a Thrydanol

Dyddiad Dechrau'r Prosiect:  

  • Gorffennaf 2024 (bydd cofrestru'n agor yng nghanol mis Mehefin)
  • Hydref 2024 (bydd cofrestru'n agor yng nghanol mis Medi)

Goruchwylwyr y prosiect: 

Rhaglen astudio sy'n cydweddu: PhD yn Peirianneg Electronig a Thrydanol

Dull astudio: Amser llawn

Disgrifiad o'r prosiect: 

Dyma ddolen i ddisgrifiad llawn o'r prosiect.

Nod y prosiect PhD hwn yw creu effaith ystyrlon drwy gydweithrediad rhwng EPRG (Grŵp Ymchwil Peirianneg a Phŵer) Prifysgol Abertawe a Vishay Intertechnology.

Cymhwyster

Rhaid i ymgeiswyr feddu ar radd israddedig 2.1 mewn Peirianneg neu ddisgyblaeth wyddonol berthnasol arall. Os ydych yn gymwys i gyflwyno cais am yr ysgoloriaeth (h.y. myfyriwr sy'n gymwys i dalu ffioedd dysgu'r DU) ond nid ydych yn meddu ar radd o'r DU, gallwch wirio ein gofynion mynediad cymaradwy (gweler cymwysterau gwlad benodol). Sylwer efallai bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hyfedredd Saesneg.

Oherwydd cyfyngiadau cyllidoar hyn o bryd mae'r ysgoloriaeth hon ar gael i ymgeiswyr sy'n gymwys i dalu ffioedd dysgu ar gyfradd y Deyrnas Unedig yn unig, fel y diffiniwyd ganreoliadau UKCISA. 

Os oes gennyt gwestiynau am dy gymhwystra academaidd neu dy gymhwystra o ran ffioedd ar sail yr hyn sydd uchod, e-bostia pgrscholarships@abertawe.ac.uk ynghyd â'r ddolen i'r ysgoloriaeth(au) y mae gennyt ddiddordeb ynddi/ynddynt.

Cyllid

Mae'r ysgoloriaeth ymchwil hon yn talu holl ffïoedd dysgu'r DU gan gynnwys cyflog blynyddol ar raddfa UKRI (sef £18,622 ar gyfer 2023/24 ar hyn o bryd).

Bydd treuliau ymchwil ychwanegol ar gael hefyd.

Sut i wneud cais

I gyflwyno cais, cwblhewch eich cais ar-lein gan fewnbynnu'r wybodaeth ganlynol:

  1. Dewis Cwrs –  dewiswch Peirianneg Electronig a Thrydanol / Ph.D./ Amser llawn / 3 blynedd / Gorffennaf (neu Hydref)

Os ydych chi eisoes wedi cyflwyno cais am y rhaglen hon, mae’n bosib y bydd y system ymgeisio’n rhoi hysbysiad rhybuddio a’ch atal rhag cyflwyno cais. Os bydd hyn yn digwydd, e-bostiwch pgrscholarships@abertawe.ac.uk lle bydd staff yn hapus i’ch helpu i gyflwyno eich cais.

  1. Blwyddyn dechrau - Dewiswch 2024
  2. Cyllid (tudalen 8) -
  • 'Ydych chi’n ariannu'ch astudiaethau eich hun?' - dewiswch Nac ydw
  • 'Rhowch enw'r unigolyn neu'r sefydliad sy'n darparu'r cyllid astudio' - nodwch ‘RS563 - Gate-oxide reliability'

*Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw rhestru’r wybodaeth uchod yn gywir wrth gyflwyno cais. Sylwer na chaiff ceisiadau sy’n cael eu derbyn heb yr wybodaeth uchod eu hystyried am yr ysgoloriaeth.

Mae angen cyflwyno un cais yn unig ar gyfer pob dyfarniad ysgoloriaeth ymchwil a arweinir gan Brifysgol Abertawe; ni fydd ceisiadau sy’n rhestru mwy nag un dyfarniad ysgoloriaeth ymchwil a arweinir gan Brifysgol Abertawe yn cael eu hystyried.

Rydym ni’n eich annog chi i gwblhau’r canlynol i gefnogi ein hymrwymiad ni i ddarparu amgylchedd nad yw’n cynnwys unrhyw wahaniaethu ac sy’n dathlu amrywiaeth ym Mhrifysgol Abertawe: 

Fel rhan o'ch cais ar-lein, RHAID i chi lanlwytho'r dogfennau canlynol (peidiwch ag anfon y rhain drwy e-bost). Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn darparu'r dogfennau a restrir erbyn y dyddiad cau a hysbysebir lle bynnag y bo modd:

  • CV
  • Tystysgrifau gradd a thrawsgrifiadau (os ydych chi'n astudio am radd ar hyn o bryd, bydd cipluniau o'ch graddau hyd heddiw'n ddigonol)
  • Llythyr eglurhaol gan gynnwys 'Datganiad Personol Atodol' i esbonio pam mae'r swydd yn cydweddu'n benodol â'ch sgiliau a'ch profiad a sut byddech chi'n dewis i ddatblygu'r prosiect.
  • Dau eirda academaidd (academaidd neu gyflogwr blaenorol) ar bapur swyddogol neu gan ddefnyddio ffurflen eirda Prifysgol Abertawe. Sylwer nad ydym yn gallu derbyn geirda sy'n cynnwys cyfrif e-bost personol e.e. Hotmail. Dylai canolwyr nodi eu cyfeiriad e-bost proffesiynol er mwyn dilysu'r geirda.
  • Tystiolaeth o fodloni gofynion Iaith Saesneg (lle bo'n briodol).
  • Copi o fisa preswylydd y DU (lle bo'n briodol)
  • Cadarnhad o gyflwyno ffurflen Cydraddoldeb Amrywiaeth a Chynhwysiant (Dewisol) 

Os oes gennych chi ymholiadau, cysylltwch â Dr Mohammad Monfared (mohammad.monfared@abertawe.ac.uk).

*Rhannu Data Ceisiadau â Phartneriaid Allanol - Sylwer, fel rhan o'r broses dethol ceisiadau am ysgoloriaethau, efallai byddwn yn rhannu data â phartneriaid allanol y tu allan i'r Brifysgol, pan gaiff prosiect ysgoloriaeth ei ariannu ar y cyd.