Dyddiad cau: 13 Mai 2024

Gwybodaeth Allweddol

YSGOLORIAETH PHD PARTNERIAETH DDOETHUROL GYDWEITHREDOL YR AHRC A ARIENNIR YN LLAWN: Y CELFYDDYDAU, YMGYRCHU A HYGYRCHEDD: CELFYDDYDAU I BOBL ANABL YNG NGHYMRU, 1980 HYD HEDDIW 

Darparwyr cyllid: Cynllun Partneriaethau Doethurol Cydweithredol Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau (AHRC)

Meysydd pwnc: Hanes

Dyddiad Dechrau'r Prosiect:  

  • 1 Hydref 2024 (bydd cofrestru'n agor yng nghanol mis Medi) 

Goruchwylwyr:

  • Yr Athro David M. Turner (d.m.turner@abertawe.ac.uk) a Dr Ryan Sweet (Prifysgol Abertawe)
  • Ms Manon Foster-Evans a Mrs Lorena Troughton (Llyfrgell Genedlaethol Cymru)

Rhaglen astudio sy'n cydweddu: PhD mewn Hanes

Dull astudio: Mae'n bosib astudio'n amser llawn neu'n rhan-amser.

Disgrifiad o'r prosiect: 

Mae'n bleser gan Brifysgol Abertawe, a Llyfrgell Genedlaethol Cymru, gyhoeddi y bydd ysgoloriaeth ymchwil ddoethurol gydweithredol a ariennir yn llawn ar gael o fis Hydref 2024 dan Gynllun Partneriaethau Doethurol Cydweithredol yr AHRC.

Ers y 1980au, mae'r celfyddydau a diwylliant wedi gwneud cyfraniad sylweddol at fynegi hunaniaethau pobl fyddar a phobl anabl ym Mhrydain ac maent wedi cynnal ymgyrchu ynghylch anableddau. Eto, mae prinder hanesion celfyddydau i bobl anabl, yn enwedig yng Nghymru. Mae'r pwnc PhD hwn yn archwilio sut mae bywydau diwylliannol pobl fyddar ac anabl yng Nghymru wedi newid dros y 40 mlynedd diwethaf. Bydd yn dadansoddi rôl newidiol celfyddydau i bobl anabl (gan gynnwys celfyddydau gweledol, y theatr, dawns a ffilmiau) wrth gyfrannu at drefn gymdeithasol pobl fyddar ac anabl yn ystod y cyfnod hwn, ac yn gofyn beth mae gwaith creadigol pobl fyddar ac anabl yn ei ddweud wrthym am ystyr bod yn anabl yng Nghymru. Sefydlwyd y corff Celfyddydau ar gyfer Pobl Anabl yng Nghymru (sydd bellach yn Gelfyddydau Anabledd Cymru) ym 1982 a chan ei fod yn un o'r sefydliadau amlgyfrwng hynaf yn y DU o ran celfyddydau i bobl anabl, mae'n hollbwysig i'n dealltwriaeth ehangach o ddatblygiad celfyddydau ac ymgyrchu i bobl anabl. Mae'r PhD hon yn cynnig cyfle unigryw i weithio gyda Llyfrgell Genedlaethol Cymru i gynorthwyo Celfyddydau Anabledd Cymru wrth gadw ac ehangu mynediad at archif y corff a chydweithredu ag artistiaid ac ymgyrchwyr i ddod â stori celfyddydau i bobl anabl yng Nghymru'n fyw i gynulleidfaoedd newydd.

Bydd y myfyriwr yn gweithio ym Mhrifysgol Abertawe ac yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth. Bydd cyfleoedd i gymryd rhan yn rhaglen digwyddiadau datblygu carfan y Bartneriaeth Ddoethurol Gydweithredol a gweithgareddau eraill a drefnir ar gyfer myfyrwyr y Bartneriaeth Ddoethurol Gydweithredol gan yr AHRC, yn ogystal â hyfforddiant a datblygiad a ddarperir gan Brifysgol Abertawe a Chonsortiwm Partneriaeth Ddoethurol Gydweithredol Diwylliant a Threftadaeth Cymru. 

Cymhwyster

Rhaid i ymgeiswyr feddu ar radd israddedig ar lefel 2:1 ac yn ddelfrydol dylent feddu ar gymhwyster lefel meistr perthnasol, neu ddisgwyl derbyn cymhwyster o'r fath, a/neu allu dangos profiad cyfwerth mewn lleoliad proffesiynol.  Mae disgyblaethau addas yn hyblyg, ond gallent gynnwys Hanes, Astudiaethau Anabledd, Astudiaethau Diwylliannol ac Amgueddfeydd, Celfyddydau Creadigol a Pherfformio, y Cyfryngau, Hanes Celf. Mae gallu dwyieithog (Cymraeg/Saesneg) yn ddymunol ond nid yw'n ofynnol ar gyfer yr ysgoloriaeth ymchwil hon. Os ydych yn gymwys i gyflwyno cais am yr ysgoloriaeth (h.y. myfyriwr sy'n gymwys i dalu ffïoedd dysgu ar gyfradd y DU), ond nid oes gennych radd o'r DU, gallwch wirio ein cymhariaeth o ofynion mynediad (gweler cymwysterau gwledydd penodol). Sylwer y gall fod angen i chi gyflwyno tystiolaeth o'ch rhuglder yn yr iaith Saesneg.

Rydym am annog yr amrywiaeth ehangaf o fyfyrwyr posib i astudio am ysgoloriaeth ymchwil y Bartneriaeth Ddoethurol Gydweithredol ac yn ymrwymedig i groesawu ceisiadau gan fyfyrwyr o gefndiroedd gwahanol.

Yr Iaith Saesneg: Sgôr IELTS gyffredinol o 6.5 (heb unrhyw elfen unigol yn is na 6.5) neu gymhwyster cyfwerth a gydnabyddir gan Brifysgol Abertawe.Ceir manylion llawn yma am ein polisi Iaith Saesneg, gan gynnwys cyfnod dilysrwydd tystysgrifau. 

Mae'r ysgoloriaeth ymchwil hon ar agor i ymgeiswyr o unrhyw genedligrwydd. 

Os oes gennyt gwestiynau am dy gymhwystra academaidd neu dy gymhwystra o ran ffioedd ar sail yr hyn sydd uchod, e-bostia pgrscholarships@abertawe.ac.uk ynghyd â'r ddolen i'r ysgoloriaeth(au) y mae gennyt ddiddordeb ynddi/ynddynt.

Cyllid

Mae'r ysgoloriaeth ymchwil hon yn talu holl gostau ffïoedd dysgu ac ariantal blynyddol gwerth £19,237 ynghyd ag ariantal uwch gwerth £600 y flwyddyn.

Bydd treuliau ymchwil ychwanegol ar gael hefyd.

Sut i wneud cais

I gyflwyno cais, cwblhewch eich cais ar-lein gan fewnbynnu'r wybodaeth ganlynol:

  1. Dewis Cwrs –  dewiswch Hanes / Ph.D./ Amser llawn (neu'n rhan-amser) / 3 blynedd (neu 6 mlynedd) / Hydref

Os ydych chi eisoes wedi cyflwyno cais am y rhaglen hon, mae’n bosib y bydd y system ymgeisio’n rhoi hysbysiad rhybuddio a’ch atal rhag cyflwyno cais. Os bydd hyn yn digwydd, e-bostiwch pgrscholarships@abertawe.ac.uk lle bydd staff yn hapus i’ch helpu i gyflwyno eich cais.

  1. Blwyddyn dechrau - Dewiswch 2024
  2. Cyllid (tudalen 8) -
  • 'Ydych chi’n ariannu'ch astudiaethau eich hun?' - dewiswch Nac ydw
  • 'Rhowch enw'r unigolyn neu'r sefydliad sy'n darparu'r cyllid astudio' - nodwch ‘RS595 - Arts, Activism, and Accessibility'

*Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw rhestru’r wybodaeth uchod yn gywir wrth gyflwyno cais. Sylwer na chaiff ceisiadau sy’n cael eu derbyn heb yr wybodaeth uchod eu hystyried am yr ysgoloriaeth.

Mae angen cyflwyno un cais yn unig ar gyfer pob dyfarniad ysgoloriaeth ymchwil a arweinir gan Brifysgol Abertawe; ni fydd ceisiadau sy’n rhestru mwy nag un dyfarniad ysgoloriaeth ymchwil a arweinir gan Brifysgol Abertawe yn cael eu hystyried.

Rydym ni’n eich annog chi i gwblhau’r canlynol i gefnogi ein hymrwymiad ni i ddarparu amgylchedd nad yw’n cynnwys unrhyw wahaniaethu ac sy’n dathlu amrywiaeth ym Mhrifysgol Abertawe: 

Fel rhan o'ch cais ar-lein, RHAID i chi lanlwytho'r dogfennau canlynol (peidiwch ag anfon y rhain drwy e-bost):

  • CV
  • Tystysgrifau gradd a thrawsgrifiadau (os ydych chi'n astudio am radd ar hyn o bryd, bydd cipluniau o'ch graddau hyd heddiw'n ddigonol)
  • Llythyr eglurhaol i esbonio pam mae'r rôl yn cyd-fynd yn benodol â'ch sgiliau a'ch profiad a sut byddwch yn dewis datblygu'r prosiect (dwy dudalen)
  • Dau eirda academaidd (academaidd neu gyflogwr blaenorol) ar bapur swyddogol neu gan ddefnyddio ffurflen eirda Prifysgol Abertawe. Sylwer nad ydym yn gallu derbyn geirda sy'n cynnwys cyfrif e-bost personol e.e. Hotmail. Dylai canolwyr nodi eu cyfeiriad e-bost proffesiynol er mwyn dilysu'r geirda.
  • Tystiolaeth o fodloni gofynion Iaith Saesneg (lle bo'n briodol).
  • Copi o fisa preswylydd y DU (lle bo'n briodol)
  • Cadarnhad o gyflwyno ffurflen Cydraddoldeb Amrywiaeth a Chynhwysiant (Dewisol) 

Os oes gennych ymholiadau, cysylltwch â'r Athro David M. Turner (d.m.turner@abertawe.ac.uk).

*Rhannu Data Ceisiadau â Phartneriaid Allanol - Sylwer, fel rhan o'r broses dethol ceisiadau am ysgoloriaethau, efallai byddwn yn rhannu data â phartneriaid allanol y tu allan i'r Brifysgol, pan gaiff prosiect ysgoloriaeth ei ariannu ar y cyd.