Uwch-gynhadledd Heriau Byd-eang
Ymunwch â Chyn-ysgrifennydd Gwladol yr Unol Daleithiau, Hillary Rodham Clinton, a llu o arweinwyr rhyngwladol, arbenigwyr ac ysgogwyr newid sy’n ysbrydoli ar gyfer Uwch-gynhadledd Heriau Byd-eang gyntaf Hillary Rodham Clinton ym Mhrifysgol Abertawe.
Wedi’i chynnull a’i chadeirio gan Ysgrifennydd Clinton a’i noddi gan Lywodraeth Cymru, lle bydd sgyrsiau am ofal iechyd byd-eang, cyflawni targedau lleihau carbon, manteisio ar dechnoleg i wneud gwahaniaeth er gwell, a hyrwyddo byd mwy cyfartal.
Cynhelir yr Uwch-gynhadledd yn rhithwir, a chaiff pob trafodaeth a sesiwn banel ei ffrydio'n fyw gyda mynediad am ddim (ar ôl cofrestru). Gall cyfranogwyr ymuno â sesiynau unigol neu'r Uwch-gynhadledd gyfan.