Yr Ysgrifennydd Clinton a Phrifysgol Abertawe

"Rydym yn ymfalchïo'n fawr yn ein partneriaeth barhaus â'r Ysgrifennydd Clinton a'r ffordd rydym yn creu cymuned fyd-eang o unigolion a sefydliadau sy'n benderfynol o gydweithio i gyflawni newid parhaol go iawn."

Yr Athro Elwen Evans CB, Dirprwy Is-ganghellor a Deon Gweithredol, Prifysgol Abertawe

Ym mis Hydref 2017, roedd Prifysgol Abertawe'n falch o gyflwyno Dyfarniad er Anrhydedd i gyn-Ysgrifennydd Gwladol yr Unol Daleithiau, Hillary Rodham Clinton, i gydnabod ei gyrfa wleidyddol, ei hymrwymiad i hawliau dynol, a chysylltiadau ei chyndeidiau ag Abertawe.

Yn ystod y seremoni, traddododd yr Ysgrifennydd Clinton ddarlith bwysig ar hawliau dynol plant a dadorchuddiodd blac i ddathlu enwi Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton.

The Gutsy Women Panel

Dychwelodd yr Ysgrifennydd Clinton i Abertawe i gwrdd ag aelodau staff yn Ysgol y Gyfraith yn 2018 a daeth yn ôl eto yn 2019 i lansio'r rhaglen Heriau Byd-eang a chwrdd â'r pum deiliad ysgoloriaeth cyntaf. Yn ogystal, bu'r Ysgrifennydd yn westai er anrhydedd yn y panel trafodaeth “Menywod Mentrus Cymru" ger bron cynulleidfa o fenywod busnes ac entrepreneuriaid blaenllaw, staff a myfyrwyr o'r Brifysgol a chymuned ehangach Prifysgol Abertawe.

Er bod Covid-19 wedi ei hatal rhag teithio i'r DU, cadwodd yr Ysgrifennydd Clinton mewn cysylltiad agos â'r Brifysgol drwy gydol 2020, rhannodd ei phrofiadau a'i dealltwriaeth â'r ysgolheigion, a thraddododd Ddarlith Goffa James Callaghan fel rhan o ddathliadau canmlwyddiant y Brifysgol.

Ym mis Chwefror 2021, arweiniodd yr Ysgrifennydd y dathliad graddio ar-lein ar gyfer y garfan gyntaf o ysgolheigion a chyhoeddodd ail garfan y Rhaglen Heriau Byd-eang, sy'n parhau i gael ei chefnogi gan Sky.

Gwyliwch y Panel