Darlithwyr gwadd gan arbenigwyr ac arweinwyr y byd

Fel rhan o’u MA mewn Heriau Byd-eang: Y Gyfraith, Polisi ac Ymarfer, mae’r ysgolheigion heriau byd-eang yn cael ystod o gyfleoedd unigryw sy’n cynnwys y cyfle i gwrdd ag ystod o siaradwyr gwadd a chlywed ganddynt.

Arbenigwyr ac arweinwyr byd-eang yn eu priod faes yw’r siaradwyr hyn. Maen nhw wedi rhannu’u profiadau bywyd personol a phroffesiynol gyda’r ysgolheigion, ar y cyd ag ychydig o wersi bywyd a darnau allweddol o gyngor ar hyd y ffordd.

Gallwch chi weld ein cyfres o ddarlithoedd ar heriau byd-eang gan ddefnyddio’r dolenni isod.