ABBIBA IVY PRINCEWILL - DEILIAD YSGOLORIAETH HERIAU BYD-EANG
Mae Abbiba Ivy Princewill yn gyfreithiwr cymwysedig o Nigeria ac yn Gymrawd Ysgrifennu African Liberty am 2020/21, un o 35 o gymrodorion o Affrica a ddewiswyd drwy gystadleuaeth. Mae hi'n cynrychioli Nigeria ar raglen Arweinwyr Ifanc Menywod y Cenhedloedd Unedig am 2020, un o 25 o arweinwyr benywaidd ifanc o Nigeria a ddewiswyd i ddathlu 25 mlynedd ers sefydlu Platfform Gweithredu Beijing.
Mae hi'n angerddol am hawliau plant, cydraddoldeb rhwng y rhywiau ac ysgrifennu traethodau. Bydd Abbiba yn gweithio gyda Chanolfan Gyfreithiol y Plant Cymru ar gyfer ei phrosiect lleoliad gwaith ar y rhaglen Heriau Byd-eang.
CEFNDIR ADDYSGOL A GYRFA
Graddiodd Abbiba o Goleg y Brenin Llundain yn 2014 ag Anrhydedd Ail Ddosbarth Uwch yn y Gyfraith. Ar ôl graddio, symudodd i’r UD, lle enillodd LLM mewn Rheoleiddio Gwarantau gan Brifysgol Califfornia, Los Angeles. Wedi hynny, dyfarnwyd LPC iddi gan Brifysgol y Ddinas Llundain. Yn 2016, dychwelodd i Nigeria i weithio fel cyfreithiwr iau yn Opeyemi Bamidele & Associates a bu'n addysgu Saesneg yn yr Ysgol Uwchradd Iau yn Jabi, Abuja, am ei blwyddyn orfodol o Wasanaeth Ieuenctid Cenedlaethol. Mwynhaodd Abbiba ei phrofiad o addysgu ac, yn ystod y cyfnod hwn, dechreuodd ei diddordeb mewn hawliau plant, yn enwedig hawliau plant i addysg.
Ar ôl iddi fynychu Ysgol y Gyfraith Nigeria, derbyniwyd Abbiba i Far Nigeria yn 2019. Yna daeth cyfnod o wirfoddoli ar gyfer L'Osservatorio - y ganolfan ymchwil i effaith gwrthdaro ar ddioddefwyr sifil, a chyfnod fel Llysgennad ar gyfer Sefydliad Llythrennedd y Byd, sefydliad sy'n ymroddedig i ddileu anllythrennedd o'r byd.
Atgyfnerthwyd ei diddordeb mewn hawliau plant ac mewn cydraddoldeb rhwng y rhywiau ymhellach drwy'r profiadau hyn, wrth iddi weld effaith anghymesur gwrthdaro ac anllythrennedd ar fenywod a phlant yn benodol.
Ym mis Tachwedd 2020, cymerodd Abbiba ran yn lansiad swyddogol ymgyrch Cenhedlaeth Cydraddoldeb y Cenhedloedd Unedig. Ym mis Rhagfyr 2020, cyflwynodd ei cherdd, "We Say No” yn y Rhwydwaith Menywod Affricanaidd (cangen Nigeria) ac yn Neialog Pontio'r Cenedlaethau'r Cenhedloedd Unedig am eiriolaeth dros weithredu ar garlam ar drais yn erbyn menywod a merched yn Nigeria.
MEYSYDD ARBENIGEDD
Ers dechrau'r rhaglen Heriau Byd-eang, mae Abbiba wedi bod yn ymchwilio i'r fframwaith cyfreithiol ar gyfer gwasanaethau addysgol i blant ag anghenion addysgol arbennig. Mae hyn yn rhan o'i lleoliad gwaith yng Nghanolfan Gyfreithiol y Plant Cymru. Mae ei hymchwil yn cynnwys archwilio rhwymedigaethau rhyngwladol ym maes hawliau plant, gan gynnwys Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn a'r Confensiwn ar Hawliau Pobl ag Anableddau. Yna bydd yn dadansoddi'n feirniadol Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 ac yn asesu effeithiolrwydd y ddeddfwriaeth wrth barchu, diogelu a gwireddu hawl i addysg plant ag anghenion arbennig. Mae Abbiba yn ymgymryd ag interniaeth yn Uned Hawliau Dynol UNICEF ar hyn o bryd.
UCHELGEISIAU A GOBEITHION AM Y DYFODOL
“Ar gyfer y dyfodol, dyheuaf am weithio ym meysydd hawliau dynol, hawliau a datblygiad plant.
Fy ngobaith yw ennill sgiliau ymchwilio, llunio polisïau ac eirioli o’r rhaglen Heriau Byd-eang i fod yn llais ac yn asiant newid yn y meysydd hyn, yn Affrica ac yn fyd-eang.”