RUWADZANO - YSGOLHAIG HERIAU BYD-EANG
Cyfreithwraig gymwys o Simbabwe yw Ruwadzano Patience Makumbe sydd â phrofiad mewn ymchwilio i’r gyfraith ryngwladol a hawliau dynol. Ar hyn o bryd mae hi’n Ysgolhaig Heriau Byd-eang Hillary Rodham Clinton a Sky ym Mhrifysgol Abertawe. Mae hi hefyd yn Ymchwilydd Gwadd yn Sefydliad Hawliau Dynol Bonavero, Prifysgol Rhydychen o dan fantell Prosiect Rhwymedigaeth Sifil yn sgil Achosion o Gam-drin Hawliau Dynol yn Sefydliad Oak.
CEFNDIR ADDYSGOL A GYRFAOL
Mae Ruwadzano’n ymddiddori mewn ymdrechion atebolrwydd yn sgil achosion o gam-drin hawliau dynol ac achosion o dorri cyfraith ryngwladol. Tra’n gweithio gyda’r Rhaglen Heriau Byd-eang, bu’n gweithio gyda’r Rhwydwaith Gweithredu Cyfreithiol Byd-eang (GLAN) ar Brosiect Yr Iemen, gan ymchwilio i rôl technoleg megis cynnwys a gyfrennir gan ddefnyddwyr ym maes atebolrwydd ac erlyn achosion o dorri cyfraith ryngwladol. Mae Ruwadzano wedi gweithio gyda nifer o sefydliadau gan gynnwys bod yn Arbenigwraig Ymgyfreitha Effeithiau Strategol dros Fforwm Cyrff Anllywodraethol Hawliau Dynol Simbabwe.
Mae hi hefyd wedi gweithio yng Ngoruchaf Lys a Llys Cyfansoddiadol Simbabwe fel ymchwilydd cyfreithiol y barnwyr. Mae hi wedi darparu cymorth i nifer o sefydliadau ynghylch yr arferion gorau i hyrwyddo a diogelu hawliau dynol gan gynnwys yr Ymddiriedolaeth Grymuso a Thrawsnewid Ieuenctid, Fforwm Hawliau Dynol Affrica, Youth Engage, sefydliadau cymdeithasol y Sefydliad er Cydweithredu a Datblygu Economaidd (OECD), Gender Index a Phrosiect Pakati Sefydliad Arweinyddiaeth Affrica.
Mae gan Ruwadzano faglor yn y gyfraith gydag anrhydedd o Brifysgol Simbabwe a gradd Meistr ar y Cyd Erasmus Mundus mewn Polisi ac Arferion Hawliau Dynol o Brifysgol Roehampton, Llundain, Prifysgol Gothenburg, Sweden a Phrifysgol Deusto, Sbaen.
MEYSYDD ARBENIGEDD
Ymhlith meysydd ymchwil Ruwadzano y mae cyfraith ryngwladol, hawliau dynol, rheolaeth y gyfraith, atebolrwydd yn yr oes ddigidol ac arferion democrataidd.
UCHELGEISIAU A GOBEITHION AR GYFER Y DYFODOL
“Fy ngobaith yw gallu cyfrannu i greu naratif gobeithiol ynghylch diogelu a datblygu hawliau dynol. Rwy eisiau bod yn rhan o’r ymdrechion i ddatblygu polisïau, systemau a sefydliadau sydd o fudd i’r bobl fwyaf agored i niwed ac ar y cyrion yn ein cymdeithasau.”