graff o law yn taenellu rhywfaint o halen

Ynglyn â’r Podlediad

Mae Academi Dysgu ac Addysgu Prifysgol Abertawe yn archwilio byd ac amgylchedd Addysg Uwch, sy’n newid yn gyflym. Ym mhob pennod, byddwn ni’n chwilio am syniadau i wneud i ni feddwl ymhellach i wneud newid yn broses fwy hwylus, gan gynnwys pynciau fel strategaethau dysgu ac addysgu, amgylcheddau dysgu, addysgeg gynhwysol, technoleg addysgu, arloesi ac yn bwysicaf oll – gwneud cysylltiadau.

Lansiwyd y podlediad ym mis Gorffennaf 2021, ac mae wedi taflu goleuni ar staff a myfyrwyr o bob rhan o’r Brifysgol, gan gynnwys y Dirprwy Is-gangellorion, y Deoniaid, Darlithwyr, Swyddogion Undeb y Myfyrwyr, Myfyrwyr Gorffennol a'r Presennol, Staff Cefnogi, Archifwyr a hyd yn oed Staff Tiroedd, gan eu galluogi nhw i rannu eu safbwyntiau unigryw a chyfraniadau gwerthfawr at Addysg Uwch.

Lleoedd i Wrando

botwm yn cysylltu i'r podlediad ar spotify

botwm yn cysylltu i'r podlediad ar google podcasts

botwm yn cysylltu i'r podlediad ar apple podcasts

Caiff penodau newydd eu rhyddhau ar ddydd Iau olaf bob mis ynghyd â phenodau bonws yn ystod y mis wrth i ddatblygiadau amserol a  chyffrous godi. Mae pob pennod, ynghyd â set o nodiadau’r sioe a thrawsgrifiad ar gael yn y catalog isod.

Penodau