Trosolwg
Ar ôl graddio o Brifysgol Rhydychen a Choleg y Brenin Llundain, safodd Alison Arholiadau Terfynol Cymdeithas y Cyfreithwyr cyn penderfynu nad oedd am fynd i ymarfer cyfraith ac yn lle hynny dewisodd ddilyn gyrfa yn y byd academaidd. Dechreuodd ei gyrfa academaidd ym 1994 fel ymchwilydd yn Ysgol y Gyfraith Caerdydd, gan weithio ar gyfres o brosiectau gyda'r Athro Gillian Douglas, Nigel Lowe a Mervyn Murch. Ym 1999 daeth yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Abertawe lle mae hi bellach yn Athro ac yn Bennaeth Ysgol y Gyfraith.