Trosolwg
Mae Dr Yilmaz yn gweithio fel Darlithydd yn yr Adran Troseddeg, Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol ar hyn o bryd ac yn ymchwilydd ôl-ddoethurol yn y Ganolfan Ymchwil i Seiberfygythiadau (CyTREC), ym Mhrifysgol Abertawe yn y DU.
Mae ganddo PhD mewn anthropoleg gymhwysol (wleidyddol) o Brifysgol Columbia a sawl gradd Meistr mewn cyfiawnder troseddol, materion rhyngwladol ac anthropoleg. Mae wedi addysgu myfyrwyr israddedig a graddedig mewn gwrthderfysgaeth, gwleidyddiaeth ryngwladol, dadansoddi disgwrs a dulliau ymchwil yn seiliedig ar ddamcaniaeth ac ymarfer.
Ef yw awdur “Disengaging from Terrorism: Lessons from the Turkish Penitents” (Routledge 2014) a nifer o erthyglau mewn perthynas â gwrthderfysgaeth. Mae gan Dr. Yilmaz ddiddordeb mewn Gwyddor Gymdeithasol Gyfrifiadol ac mae ei ddiddordebau ymchwil yn cynnwys trais gwleidyddol, anthropoleg terfysgaeth, prosesau radicaleiddio a dadradicaleiddio o ran terfysgaeth, dadansoddi disgwrs a defnydd terfysgwyr o’r rhyngrwyd a'r cyfyngau cymdeithasol.