Trosolwg
Ar ôl ennill gradd LLB dosbarth cyntaf o Brifysgol Abertawe, roedd Emyr am barhau â'i daith academaidd. Dyfarnwyd PhD Emyr yn 2023.
Archwiliodd ei ddoethuriaeth empirig, gymdeithasol-gyfreithiol, ‘Informed Consent and Trisomy Screening: Delineating Parent and Professional Interests’, sut defnyddir cyfraith cydsyniad yng nghyd-destun arferion sgrinio cynenedigol. Fel rhan o'i ddoethuriaeth, dyfarnwyd gwobr i Emyr am Gyfraniad Neilltuol at Ymgysylltu â'r Cyhoedd yn 2022.
Mae wedi cyhoeddi gwaith yn British Journal of Midwifery, ac wedi creu adnoddau addysgol ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol y GIG ar gyfraith cydsyniad a'i defnydd yng nghyd-destun arferion cynenedigol.