Trosolwg
Astudiodd Karen Morrow LLB, LLM ym Mhrifysgol y Frenhines, Belfast a Choleg y Brenin Llundain. Mae wedi darlithio ym Mhrifysgolion Buckingham, Durham a Leeds a Phrifysgol y Frenhines, Belfast ac mae wedi bod yn Athro ym Mhrifysgol Abertawe ers 2007. Ffocws diddordebau ymchwil Karen yw agweddau damcaniaethol ac ymarferol ar gyfranogiad y cyhoedd mewn cyfraith a pholisi amgylcheddol ac ar rywedd a'r amgylchedd. Mae wedi cyhoeddi'n helaeth ar amrywiaeth o faterion amgylcheddol mewn cyd-destunau cyfreithiol a rhyngddisgyblaethol. Roedd hi'n gyd-olygydd sefydlu y Journal of Human Rights and the Environment, ac e-gyfnodolyn yr IUCN (Yr Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur). Mae'n un o sylfaenwyr ac yn rhan o dîm craidd y Rhwydwaith Byd-eang ar gyfer Astudio Hawliau Dynol a'r Amgylchedd (GNHRE) sy'n gysylltiedig â'r Undeb.
Mae'n gwasanaethu ar fyrddau golygyddol yr Environmental Law Review a’r University of Western Australia Law Review. Mae'n olygydd y gyfres Edward Elgar's Critical Reflections on Human Rights and the Environment. Mae'n aelod cyswllt o Ganolfan Cyfraith Ewrop a'r UE Monash ac mae wedi bod â statws academydd ymweld yn Katholieke Universiteit Leuven. Roedd hi'n aelod (2013-2016) o weithgor rhwydwaith COST yr UE ar "Rywedd, Gwyddoniaeth, Technoleg a'r Amgylchedd" (genderSTE). Roedd yn un o sylfaenwyr Cymdeithas Cyfraith Amgylcheddol a Chynllunio Gogledd Iwerddon (EPLANI) ac mae'n aelod o Gymdeithas Cyfraith Amgylcheddol y Deyrnas Unedig (UKELA). Mae Karen wedi goruchwylio nifer o fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig yn llwyddiannus yn ei phrif feysydd ymchwil yn Abertawe ac fel goruchwyliwr arbenigol gwadd yn yr EUI yn Fflorens.