Trosolwg
Mae Lowri yn addysgu ar y rhaglen LLB israddedig yn y Gyfraith ac mae hi wedi dysgu Cyfraith Tir ers 2015, a Chyfraith Ecwiti ac Ymddiriedolaethau ers 2018. Mae hi'n Gymrawd Cysylltiol yr Academi Addysg Uwch.
Mae gan Lowri radd LLB (Anrh.) o Brifysgol Abertawe ac, ar ôl cwblhau'r Cwrs Ymarfer y Gyfraith, bu'n gyfreithiwr proffesiynol am sawl blwyddyn cyn dychwelyd i astudio am radd Meistr mewn Cyfraith Busnes Rhyngwladol ac yna manteisiodd ar y cyfle i astudio am PhD yn y Gyfraith. Mae diddordebau ymchwil Lowri yn fras ym meysydd cyfraith masnach Sefydliad Masnach y Byd a chyfraith hawliau dynol y Cenhedloedd Unedig, yn enwedig mewn perthynas â gwella mynediad at feddyginiaethau'n fyd-eang.