Trosolwg
Ymunodd Lloyd ag Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton fel Darlithydd y Gyfraith ym mis Awst 2021. Mae Lloyd yn un o gyn-fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd lle enillodd LLB yn y Gyfraith yn 2011 a PhD yn y Gyfraith yn 2016. Ar hyn o bryd Lloyd yw Cyfarwyddwr y Cyrsiau Ecwiti ac Ymddiriedolaethau 1 a 2 ac mae'n addysgu ar y modiwl 'Y System Gyfreithiol a Sgiliau'.
Cyn ei benodiad, cafodd swyddi academaidd ym Mhrifysgol Caerdydd a Phrifysgol Birmingham, yn ogystal â swydd fel Darlithydd Gwadd ym Mhrifysgol Normal Beijing, Tsieina (2018). Yn ysgol y Gyfraith Birmingham, bu’n ddarlithydd amser llawn yn y gyfraith (2017-2020) gan addysgu amrywiaeth eang o bynciau ar lefelau sylfaen, israddedig ac ôl-raddedig. Mae diddordebau ymchwil Lloyd ym maes rheoleiddio eiddo tiriog, y marchnadoedd ariannol a'r amgylchedd, gyda diddordeb penodol mewn effaith rheoleiddio amgylcheddol ar sefydliadau ariannol. Cyhoeddwyd ei waith mewn sawl cyfnodolyn a adolygwyd gan gymheiriaid uchel eu parch gan gynnwys Environmental Law Review a Trusts & Trustees.