Trosolwg
Mae Matthew yn addysgu modiwlau gorfodol (Cyfraith Tir a Chyfraith Contract) a modiwl dewisol (Negodi) i israddedigion yn Ysgol y Gyfraith, wrth weithredu fel arweinydd modiwl ar gyfer y modiwl Negodi.
Ar wahân i'r addysgu ffurfiol, mae Matthew yn cydlynu'r gweithgareddau allgyrsiol i fyfyrwyr ddatblygu eu sgiliau negodi, cyfweld â chleientiaid, cyflafareddu, eiriolaeth a chymrodeddu apeliadol ac mae'n hyfforddi myfyrwyr bob blwyddyn mewn rhwng 25 a 30 o gystadlaethau. Mae uchafbwyntiau diweddar timoedd y mae wedi'u hyfforddi'n cynnwys:
- Pencampwyr Dadlau mewn Ffug Lys Barn Cymru 2023
- Cystadleuaeth Gyflafareddu 2023 y Siambr Fasnach Ryngwladol (2023) - Gwobr Tîm Newydd Gorau
- Cystadleuaeth Gyflafareddu Singapore (2021) - medal aur ddwbl mewn Negodi a Chyflafareddu
- Enillwyr Cystadleuaeth Negodi Rithwir Mediate Guru (2022 a 2023)
- Triathlon Cyfreithiol Caint - Dadleuwr Gorau, Negodwr ac Eiriolwr Ceisiadau (2022)
- Cystadleuaeth Gyflafareddu Lex Erudites (2022)- Cyfryngwr Gorau
- Enillwyr Cystadleuaeth Negodi PACT ODRC (2022)
- PACT ODRC Rhyngwladol - Cyfryngwr Gorau (2023)
- Cystadleuaeth Negodi Ryngwladol (Rhufain)- 4ydd lle (2023)
- Cystadleuaeth Gyflafareddu'r DU - Cyfryngwr Gorau (2023)
- Cystadleuaeth Cyfweld â Chleientiaid Cymru a Lloegr - 2il (2022), 3ydd (2023)
Mae Matthew wedi defnyddio ei brofiad a'i gysylltiadau yn y cystadlaethau hyn i drefnu a chynnull nifer o'r cystadlaethau hyn ym Mhrifysgol Abertawe, yn ogystal â mewn sefydliadau eraill. Ar wahân i gynnull Cystadleuaeth Dadlau mewn Ffug Lys Cymru ers 2021, mae Matthew wedi trefnu a chynnal y Gystadleuaeth Negodi Ryngwladol (2017), y Gystadleuaeth Ymgynghori Cleientiaid Ryngwladol (2020-2022) a’r Gystadleuaeth Dadlau mewn Ffug Lys Cyflafareddu Cyfraith Forwrol Ryngwladol (2023).