Trosolwg
Ynghyd â'i swydd yn Abertawe (0.2FTE), mae Dr Maura Conway hefyd yn Athro mewn Diogelwch Rhyngwladol yn Ysgol y Gyfraith a'r Llywodraeth ym Mhrifysgol Dinas Dulyn (DCU) yn Nulyn, Iwerddon. Hi yw Cydlynydd sefydlu rhwydwaith ymchwil VOX-Pol (voxpol.eu).
Prif ddiddordebau ymchwil yr Athro Conway yw’r cysylltiad rhwng terfysgaeth a'r Rhyngrwyd, gan gynnwys seiberfderfysgaeth, gweithrediad ac effeithiolrwydd cynnwys eithafol gwleidyddol treisgar ar-lein, a radicaleiddio ar-lein treisgar. Mae hi'n awdur dros 40 o erthyglau a phenodau yn ei maes(meysydd) arbenigol. Mae ei hymchwil wedi ymddangos mewn Studies in Conflict & Terrorism, Media, War & Conflict, Parliamentary Affairs, a Social Science Computer Review, ymhlith eraill.
Mae'r Athro Conway wedi cyflwyno ei chanfyddiadau gerbron y Cenhedloedd Unedig yn Efrog Newydd, Comisiwn yr Undeb Ewropeaidd ym Mrwsel, Tŷ'r Arglwyddi yn y DU, ac mewn mannau eraill. Mae'n aelod o Fwrdd Cynghori Academaidd Canolfan Gwrthderfysgaeth Europol ac yn aelod o Fwrdd Golygyddol Terfysgaeth a Thrais Gwleidyddol.