Trosolwg
Ymunodd Oğulcan Ekiz ag Ysgol y Gyfraith fel Darlithydd ym mis Awst 2023. Cyn hynny, bu'n gweithio fel cynullydd modiwl rhan-amser a chydymaith addysgu ym Mhrifysgol y Frenhines Mary, Llundain.
Cynhaliodd Oğulcan ei ymchwil PhD ym Mhrifysgol y Frenhines Mary Llundain wedi'i hariannu gan ysgoloriaeth ymchwil y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol. Astudiodd am LLM ym Mhrifysgol y Frenhines Mary Llundain â Bwrsariaeth J.A.L. Sterling i Ôl-raddedigion.
Mae Oğulcan yn rhan o'r Rhwydwaith Hawlfraint a Phastiche a ariennir gan yr AHRC, ac mae'n gydweithredwr Rhwydwaith y Celfyddydau/y Gyfraith. Mae e'n gweithio'n agos gydag Undeb yr Artistiaid yn Lloegr ar faterion sy'n ymwneud â hawlfraint.