Yr Athro Richard Owen

Athro
Law

Cyfeiriad ebost

003A
Llawr Gwaelod
Technium Digidol
Campws Singleton

Trosolwg

Dechreuodd Richard ei yrfa fel cyfreithiwr dan hyfforddiant, ac yna’n gyfreithiwr cynorthwyol, gyda Chorfforaeth Glo Prydain. Yn dilyn hynny aeth i Ysgol y Gyfraith Ynysoedd Cayman ac roedd yn aelod o Siambrau Twrnai Cyffredinol Ynysoedd y Cayman.

Wedi dod yn ôl i'r Deyrnas Unedig ef oedd Cyfarwyddwr Clinig Prifysgol Essex cyn ymuno â Phrifysgol Abertawe fel Cyfarwyddwr Clinig y Gyfraith Abertawe ym mis Ionawr 2017. 

Yn gyn Gadeirydd Cymdeithas Athrawon y Gyfraith, roedd Richard hefyd yn aelod o Bwyllgor Cynghori Cymru Comisiwn y Gyfraith. Bu hefyd yn Ymgynghorydd Cymru Canolfan Addysg Gyfreithiol y DU, yn athro gwadd ym Mhrifysgol Fudan, Gweriniaeth y Bobl Tsieina o dan Raglen Gydweithredol yr UE-Tsieina, yn Adolygydd Annibynnol ar gyfer Sefydliad Siartredig y Gweithredwyr Cyfreithiol, ac yn adolygydd ar gyfer yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd.  Ar hyn o bryd, mae Richard yn aelod o Bwyllgor Cymru Cymdeithas y Cyfreithwyr a bu hefyd yn aelod o'i Phwyllgor Mynediad at Gyfiawnder.  

Richard oedd golygydd adran Policy and Educational Developments The Law Teacher: The International Journal of Legal Education ac mae'n parhau i fod ar y Bwrdd Golygyddol. Mae hefyd yn adolygydd ar gyfer yr International Journal of Clinical Legal Education. Mae wedi cynnull nifer o gynadleddau ar addysg gyfreithiol yng Nghymru, yn fwyaf diweddar ar gyfer y Rhwydwaith Ymchwil Addysg Gyfreithiol (LERN) ym mis Ebrill 2016.

Yn ogystal â rhedeg clinigau sy'n rhoi cyngor a chymorth cychwynnol i aelodau'r cyhoedd ynghylch pynciau fel tai, torperthynas, materion defnyddwyr, a chyfraith cyflogaeth, mae Richard hefyd wedi cynnal prosiect cyfraith carchardai ar y cyd â'r Gwasanaeth Cyngor i Garcharorion, a Phrosiect Camweinyddu Cyfiawnder ar y cyd ag Inside Justice. 

Ar hyn o bryd mae Richard yn aelod o Fwrdd Cynghori LawWorks Cymru, Pwyllgor Mynediad at Gyfiawnder Cymdeithas y Cyfreithwyr, ac mae'n rhedeg Desg Gymorth Ymgyfreithio yng Nghanolfan Cyfiawnder Sifil Abertawe. Mae'n Gadeirydd grŵp llywio Rhwydwaith Cyngor Rhanbarthol Abertawe Castell-nedd Port Talbot ac mae'n ymddiriedolwr i'r elusen iechyd meddwl, Hafal.

Dysgwch fwy am Glinig y Gyfraith.

Meysydd Arbenigedd

  • Addysg gyfreithiol glinigol
  • Gwasanaethau cyngor cyfreithiol
  • Cyfraith Cymru
  • Mynediad at gyfiawnder

Uchafbwyntiau Gyrfa

Prif Wobrau

Cymrawd Addysgu Cenedlaethol 2019

Rownd derfynol Gwobr Athro’r Gyfraith y Flwyddyn OUP 2018