Myfyrwyr benywaidd yn gweithio mewn labordy cemeg

Mae Prifysgol Abertawe wedi derbyn cydnabyddiaeth fyd-eang am safon uchel yr addysg gemeg y mae'n ei chynnig.

Mae'r adran gemeg, sy'n rhan o Ysgol Beirianneg a Gwyddorau Cymhwysol y Brifysgol, yn un o dair adran yn unig yn y byd sydd wedi'u cydnabod gan Gymdeithas Gemeg America drwy ei rhaglen uchel ei bri, Recognition of Global Programs in Chemical Sciences. 

Nod y fenter hon yw hybu rhagoriaeth ym maes addysg gemeg israddedig mewn sefydliadau y tu allan i'r Unol Daleithiau. Er mwyn ennill yr anrhydedd hwn rhaid i sefydliad gynnig addysg gemeg eang a thrylwyr sy'n rhoi sgiliau deallusol, arbrofol, a chyfathrebu i fyfyrwyr i’w galluogi i ddod yn wyddonwyr proffesiynol effeithiol. 

Dywedodd yr Athro Simon Bott ei fod yn hynod falch bod Cymdeithas Gemeg America wedi dangos arwydd mor bwysig o’i ffydd mewn cemeg yn Abertawe. 

Dywedodd: "Mae derbyn cydnabyddiaeth yn ein gwlad ni ac yn rhyngwladol yn dangos ein bod yn cynnig rhaglen gref, ddichonol sy'n briodol ar gyfer yr 21ain ganrif. 

"Mae hyn yn arbennig o bwysig i'n myfyrwyr a fydd efallai yn ymgeisio am swyddi, am interniaethau neu am gyfleoedd astudio ôl-raddedig y tu allan i'r DU. 

"Yn amlwg, os gallant ddweud wrth gwmni neu brifysgol yn yr Unol Daleithiau eu bod wedi graddio o Raglen Fyd-eang a gydnabyddir gan Gymdeithas Gemeg America, mae'n rhoi mwy o hygrededd i'w gradd. Mae'r rhan fwyaf o bobl yn yr Unol Daleithiau wedi clywed am Rydychen neu Gaergrawnt a byddent yn tybio bod y graddau hynny yn ddigon da, ond mae'r gydnabyddiaeth hon nawr yn rhoi'r sicrwydd hwnnw i raddau Abertawe."

Datblygodd Cymdeithas Gemeg America ganllawiau rhyngwladol sy'n cyd-fynd â'r safonau y mae'n eu gosod ar gyfer y rhaglenni gradd baglor mewn cemeg a gymeradwyir yn yr Unol Daleithiau. Er mwyn derbyn cydnabyddiaeth rhaid i brifysgol fodloni'r canllawiau llym hynny sy'n cynnwys gwerthuso ei rhaglen gemeg a nodi meysydd cryfderau a chyfleoedd i newid.

 Mae Abertawe yn un o dri sefydliad yn unig – ochr yn ochr â'r Universidad del Valle yng Ngholombia a Choleg Rhyngwladol Prifysgol Mahidol yng Ngwlad Thai - i dderbyn y gydnabyddiaeth.

 Ychwanegodd yr Athro Bott: "Mae Cemeg yn Abertawe yn rhaglen newydd a ddatblygwyd gennym ar sail disgwyliadau o raddedigion yr 21ain ganrif a fynegwyd gan gyflogwyr, gwyddonwyr ac addysgwyr. Mae'n amlwg yn galonogol iawn bod un o sefydliadau gwyddonol mwyaf y byd yn cydnabod ein bod wedi cyflawni'r nodau hyn." 

 Dysgwch fwy am astudio cemeg yn Abertawe

 

Rhannu'r stori