Croesawodd Prifysgol Abertawe 60 o gwmnïau a sefydliadau uchel eu bri i'w Ffair Yrfaoedd yn ddiweddar, gan helpu mwy na 2,300 o fyfyrwyr i gael mynediad at y farchnad swyddi a hybu eu cyflogadwyedd.
Fel rhan o'r Ffair eleni, trefnodd Academi Cyflogadwyedd Prifysgol Abertawe ddau ddigwyddiad ar y ddau gampws ar 17 a 18 Hydref, gan groesawu bron 300 yn fwy o bobl na'r flwyddyn flaenorol.
Cymerodd amrywiaeth eang o gyflogwyr o bob sector ran yn y digwyddiadau, gan gynnwys Academi Gyllid GIG Cymru, Dŵr Cymru, Deloitte, Jaguar Land Rover, a Tata Steel.
Mae'r Ffair, sy'n un o uchafbwyntiau calendr Academi Cyflogadwyedd Abertawe, yn annog myfyrwyr o bob cyfadran, disgyblaeth a lefel astudio i rwydweithio ac archwilio eu hopsiynau ar ôl graddio, boed drwy rolau i raddedigion, interniaethau, lleoliadau gwaith neu astudiaethau pellach.
Meddai Adhitya, myfyriwr MSc Peirianneg Bwer ac Ynni Cynaliadwy: “Roedd yn wych cael y cyfle i rwydweithio â darpar gyflogwyr a chydweithwyr â diddordebau a dyheadau tebyg i fy rhai i, ac yn ffordd ardderchog o archwilio fy mhosibiliadau gydag amrywiaeth eang o sefydliadau i ddechrau cynllunio fy ngyrfa.”
Eleni, gwnaeth y Ffair hefyd gynnig lluniau LinkedIn newydd i fyfyrwyr, ynghyd â mynediad at glinig CV i gynorthwyo gyda cheisiadau. Mae hyn i gyd yn rhan o ymdrech y Brifysgol i roi'r cymorth mwyaf posib wrth ymwneud â'r dirwedd swyddi anodd.
Rhestrwyd y Brifysgol yn y 35ain safle yn y DU am Ragolygon Gyrfa, yn ôl The Guardian University Guide 2024, ac mae digwyddiadau fel y Ffair Yrfaoedd yn amlygu ei hymrwymiad i feithrin twf a datblygiad proffesiynol ei holl fyfyrwyr.
Meddai Jess Loomba, Rheolwr Gwasanaethau Cyflogadwyedd: “Roedd hi'n bleser i ni groesawu cynifer o gyflogwyr lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i'r Ffair Yrfaoedd eleni a gweld cynifer o fyfyrwyr yn achub ar y cyfle i feithrin cysylltiadau amhrisiadwy.
“Mae'r niferoedd anhygoel a gymerodd ran eleni'n dangos penderfyniad ein myfyrwyr a'r diddordeb parhaus mewn Prifysgol Abertawe fel canolbwynt ar gyfer twf gyrfaol, ac rydyn ni eisoes yn edrych ymlaen at y Ffair nesaf!”
Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am Academi Cyflogadwyedd Abertawe, gan gynnwys y cymorth sydd ar gael i fyfyrwyr a chyflogwyr.