Mae Llyfrgell Glowyr De Cymru'n dathlu hanner canrif o gasglu a chadw atgofion pwysig gorffennol diwydiannol balch y rhanbarth.
Mae Llyfrgell Glowyr De Cymru, a leolir ym Mhrifysgol Abertawe, yn dathlu 50 mlynedd nos Wener, 20 Hydref drwy gynnal Darlith Rhys Davies yn Llyfrgell Glowyr De Cymru, a gynhelir eleni yn y Neuadd Fawr ar Gampws y Bae am 6.30pm.
Cyflwynir gan John Willgoose – sy'n fwy adnabyddus fel J.Willgoose Esq, dyn blaen y band Public Service Broadcasting - enw'r ddarlith am ddim yw Fifty Years at the South Wales Miners’ Library: telling the story of the coalfields through music and memories. Fe'i cynhelir ar y cyd â Sefydliad Diwydiannol y Brifysgol ac fe'i cefnogir yn hael gan Ymddiriedolaeth Rhys Davies.
Agorwyd Llyfrgell Glowyr De Cymru ym 1973 i fod yn gartref i ddeunyddiau a gasglwyd yn ystod Prosiect Hanes y Pyllau Glo dros dair blynedd, a ariannwyd gan y Cyngor Ymchwil Gwyddor Gymdeithasol ac fe'i cefnogir gan Ardal De Cymru Undeb Cenedlaethol y Gweithwyr Glo a Sefydliad Lles Cymdeithasol y Diwydiannau Glo.
Mae'r prosiect hwn yn bwriadu casglu cofnodion unigolion a'r sefydliadau a grëwyd ganddynt, megis llyfrgelloedd, corau a chyfrinfeydd Undeb Cenedlaethol y Gweithwyr Glo. Cedwir y llyfrau, y taflenni, y posteri, y baneri, y casgliadau llafar a fideo yn Llyfrgell Glowyr De Cymru tra bod y cofnodion ysgrifenedig a’r lluniau yn cael eu cadw yn Archifau Richard Burton hefyd ym Mhrifysgol Abertawe. Gyda chrebachiad y diwydiant glo, roedd y cymunedau glofaol hyn yn newid yn gyflym, ac roedd eu cofnodion mewn perygl o gael eu colli.
Ar wahân i fod yn ganolbwynt ar gyfer ymchwil i agweddau cymdeithasol, gwleidyddol, diwylliannol ac addysgol pyllau glo De Cymru, datblygwyd y llyfrgell i fod yn ganolbwynt i addysg i oedolion ac addysg gymunedol ac mae'n etifeddiaeth sefydliadau'r glowyr mewn cymunedau ar draws de Cymru.
Yn ei chartref yn Hendrefoelan, mae Llyfrgell Glowyr De Cymru bellach yn gartref i gasgliad ymchwil unigryw ac yn rhyngwladol bwysig sy'n ymwneud â hanes diwydiannol, addysgol, cymdeithasol, diwylliannol a gwleidyddol de Cymru.
Mae ar agor i'r cyhoedd ac mae ganddi rôl flaenllaw mewn addysg oedolion, dysgu cymunedol a mentrau ymgysylltu ar draws de-orllewin Cymru. Mae hefyd yn cefnogi gwaith academyddion, myfyrwyr ac ymchwilwyr gwadd. Mae'r rhain wedi cynnwys J.Willgoose Esq a ddefnyddiodd yr adnodd i ymchwilio i albwm llwyddiannus ei fand Every Valley yn 2017 gan arwain at gynnwys sawl clip o gasgliad hanes llafar y Llyfrgell.
Cadwch eich tocynnau AM DDIM ar gyfer y ddarlith nawr