Unwaith eto, mae Prifysgol Abertawe wedi sicrhau gwobr y Faner Werdd sy'n cydnabod rhagoriaeth mewn rheoli a datblygu tiroedd.
Cynllun Gwobr y Faner Werdd yw'r dyfarniad rhyngwladol am ansawdd parciau a mannau awyr agored ac mae'n amlygu ymrwymiad y Brifysgol i greu a chynnal mannau gwyrdd cynaliadwy sy'n ddiogel, yn groesawgar ac yn agored i bawb.
Yn dilyn adborth gan fyfyrwyr a staff, mae tîm Ystadau a Gwasanaethau Campws y Brifysgol wedi bod yn gweithio'n galed i ddod â bywyd newydd i fannau awyr agored ar Gampws y Bae a Champws Singleton.
Mae'r ymdrechion hyn wedi cynnwys cynlluniau plannu helaeth wedi'u dylunio i gyfoethogi bioamrywiaeth y campysau, creu mannau awyr agored newydd i ymlacio ac astudio, a gosod murluniau a gwaith celf godidog sy'n dathlu hanes unigryw'r Brifysgol.
Yn ogystal, mae sawl adeilad treftadaeth ar y campws yn y broses o gael ei adnewyddu'n ofalus.
Mae'r prosiect parhaus hwn i wella'r amgylchedd awyr agored wedi gofyn am gydweithrediad agos rhwng y timau Tiroedd, Gweithrediadau Campws, Prosiectau a Chynaliadwyedd, sy'n angerddol am gynaliadwyedd a bod yn gadarnhaol o ran natur.
Dywedodd Pennaeth Gweithrediadau Campws, Michelle Dene: "Rydym wrth ein boddau i dderbyn gwobr y Faner Werdd, sy'n dyst i waith caled ac ymrwymiad nifer o'n timau.
"Mae cynnal a gwella ein mannau awyr agored hardd yn waith anferth ac mae gweithio cydweithredol wedi bod yn allweddol i ni sicrhau'r Faner Werdd am y seithfed flwyddyn yn olynol.
"Rydym yn awyddus i adeiladu ar y dull cydweithredol hwn i lwyddiant drwy gynnwys myfyrwyr, staff a'r gymuned ehangach yn ein hymdrechion i gynnal, rheoli a datblygu ein tiroedd hardd sy'n chwarae rhan bwysig yn y gymuned leol ac yn ehangach yn ein barn ni."
Ychwanegodd Niamh Lamond, Cofrestrydd a Phrif Swyddog Gweithredol: "Rydym yn ffodus iawn yn Abertawe i gael dau gampws sydd mewn lleoliadau hardd ac ysbrydoledig.
"Rydym wedi gwneud gwelliannau cadarnhaol iawn i'n mannau awyr agored eleni i wella'r profiad ar y campws i’n myfyrwyr, staff a'r gymuned ehangach.
"Diolch i waith caled iawn ein staff Ystadau a Gwasanaethau Campws, mae'r tiroedd yn ffynnu ac rydym am sicrhau eu bod yn parhau ar agor ac yn hygyrch i bawb."
Gallwch ddarganfod mwy am ein tiroedd arobryn