Llun o ben Alun Wyn Jones yn gwisgo siwt. Yn y cefndir mae Parc Chwaraeon Bae Abertawe.

Mae chwaraewr rygbi rhyngwladol Cymru a chyn-fyfyriwr y gyfraith ym Mhrifysgol Abertawe, Alun Wyn Jones, wedi derbyn rôl Cynghorydd Strategol yn y Rhwydwaith Cenedlaethol ar gyfer Arloesedd mewn Chwaraeon ac Iechyd (NNIISH) ym Mhrifysgol Abertawe.

Mae gan Jones y nifer mwyaf o gapiau yn hanes rygbi'r byd gan ymddangos 158 o weithiau i Gymru a 12 o weithiau i'r Llewod yn ystod ei yrfa o 20 mlynedd.

Bydd y rôl yn cynnwys rhannu ei safbwynt ar weithio mewn timau a'u harwain, rhoi mewnwelediad i ysgogi perfformiad a nodi tueddiadau newydd yn y sectorau technoleg chwaraeon ac iechyd. Bydd Jones hefyd yn cynorthwyo wrth ddatblygu cwrs gweithredol yn y Brifysgol ar gyfer athletwyr sy'n gadael byd chwaraeon a'r rhai sy'n dymuno newid gyrfa.

Fel Cymrawd er Anrhydedd o Brifysgol Abertawe ac aelod blaenllaw o'i chymuned o gyn-fyfyrwyr ym maes chwaraeon, gan gyflawni yn lleol ac ar lwyfan byd-eang, mae Jones yn cynnig cyswllt cryf ac angerddol â Chymru, y Brifysgol a'r rhanbarth.

Gan dynnu ar ei arbenigedd a'i angerdd, mae Jones yn gobeithio datblygu partneriaethau chwaraeon newydd a gweithio gydag academyddion a myfyrwyr i greu effaith gadarnhaol a hirdymor ar iechyd a lles myfyrwyr a chymuned y rhanbarth.

Bydd ei rôl newydd hefyd yn cynnwys cynghori ar fentrau lles y Brifysgol i fynd i'r afael â rhai o'r heriau y mae myfyrwyr yn eu hwynebu trwy ei brofiadau ym myd chwaraeon, gan gynnwys proffesiynoliaeth, gwydnwch a meddylfryd.

Mae Prifysgol Abertawe hefyd yn dechrau  ar gyfnod strategol newydd ar gyfer chwaraeon wrth iddi ddatblygu strategaeth chwaraeon sy'n defnyddio chwaraeon i wella blaenoriaethau strategol yn y Brifysgol a datblygu'r ardal fel un o ragoriaeth chwaraeon. Mae'r strategaeth yn gosod y sylfaen i Brifysgol Abertawe gael ei hadnabod fel y brifysgol chwaraeon fwyaf gweithredol a llwyddiannus yng Nghymru ac mae lansio NNIISH yn ddiweddar yn ategu’r nod hwn.

Mae Jones mewn lle delfrydol fel llais dilys, wedi'i wreiddio yn y gymuned leol i helpu i ddenu partneriaid a darpar fyfyrwyr i wella datblygiad strategaeth chwaraeon y Brifysgol.

Dywedodd Alun Wyn Jones: "Mae gennyf atgofion melys o fy nghyfnod ym Mhrifysgol Abertawe fel myfyriwr ac ysgolhaig chwaraeon, ac rwyf wrth fy modd yn dod yn ôl. Mae gallu cefnogi'r Brifysgol ac, yn benodol, y rhanbarth i ffynnu trwy arloesi mewn busnes a chwaraeon yn gyffrous.

Bydd yn wahanol i'r hyn rwyf wedi arfer ag ef ond, gobeithio, byddaf yn ychwanegu gwerth o'm profiad a'm gwybodaeth ac yn annog y gymuned i weld y gwerth mewn chwaraeon a'r cysylltiad uniongyrchol rhwng chwaraeon ac iechyd a lles."

Gan siarad am rôl newydd Jones, dywedodd Dirprwy Is-ganghellor Prifysgol Abertawe, Keith Lloyd: "Mae chwaraeon yn nodwedd amlwg yn hanes a threftadaeth Prifysgol Abertawe. Trwy ein strategaeth chwaraeon newydd, rydym wedi ymrwymo i droi ein rhanbarth yn brifddinas chwaraeon a lles Cymru a, thrwy ddylanwadwyr megis Alun Wyn Jones, gallwn gael effaith wrth wneud hyn.

"Mae cael rhywun â phrofiad a pharch Jones yn gweithio gyda’r Brifysgol yn wych. Bydd ei ddylanwad yn ei wneud yn fentor gwych i'n myfyrwyr ac i gymuned y Brifysgol.”

Rhannu'r stori