Babŵn tsiacma benywaidd yn glanhau babŵn gwrywaidd ym mhenrhyn Cape, De Affrica. © Charl Steenkamp.

Babŵn tsiacma benywaidd yn glanhau babŵn gwrywaidd ym mhenrhyn Cape, De Affrica © Charl Steenkamp.

Mae astudiaeth newydd gan Brifysgol Abertawe wedi datgelu perthynas annisgwyl rhwng ymddygiad glanhau a straen ffisiolegol mewn babŵns gwyllt benywaidd, sy'n mynd i’r afael â bwlch allweddol yn ein dealltwriaeth o sut mae bywyd cymdeithasol yn gysylltiedig ag iechyd a ffitrwydd  anifeiliaid.

Wedi'i chyhoeddi yn y cyfnodolyn Biology Letters, roedd yr ymchwilwyr wedi astudio babŵns tsiacma gwyllt yn Ne Affrica. Roedd coleri olrhain â synwyryddion wedi darparu data ar faint o amser yr oedd pob babŵn wedi'i dreulio yn glanhau neu'n cael ei lanhau. Roedd lefelau straen ffisiolegol y babŵns yn cael eu hamcangyfrif trwy fesur crynodiadau metabolion glucocorticoid yn eu hysgarthion.

Yn unol â gwaith blaenorol, darganfu’r tîm bod cyfraddau glanhau uwch ar gyfartaledd yn gysylltiedig â lefelau straen cyffredinol is, sy'n awgrymu bod glanhau’n cael effeithiau cadarnhaol hir dymor ar iechyd a ffitrwydd. Fodd bynnag, pan gysylltodd yr ymchwilwyr y data glanhau a straen ffisiolegol eglur iawn, darganfuwyd bod lefelau uchel o straen ffisiolegol yn dilyn ar ôl i fabŵns dreulio mwy o amser yn glanhau (yn glanhau babŵns eraill neu'n cael eu glanhau), sy'n groes i'r disgwyliadau.

Awgryma’r canfyddiad hwn ei bod yn annhebygol mai glanhau ei hun sy’n gyfrifol am y berthynas hirdymor rhwng glanhau a straen seicolegol oherwydd bod glanhau, yn y tymor byr, yn gostus yn ffisiolegol..

Gall data glanhau eglur iawn o goleri gael ei ddefnyddio bellach i astudio sut gall y berthynas rhwng ymddygiad a hormonau byr dymor hon newid ar draws cyd-destunau amgylcheddol a chymdeithasol ac, os yw'n cael ei defnyddio mewn anifeiliaid cymdeithasol eraill, gall gadarnhau pa mor eang yw'r ffenomenon.

Meddai Dr Charlotte Christensen, cyn-fyfyriwr PhD o Brifysgol Abertawe sydd bellach ym Mhrifysgol Zurich:

"Mae ein canfyddiadau'n herio'r farn gonfensiynol bod glanhau yn arfer cwbl ymlaciol ac yn awgrymu bod y costau ffisiolegol uniongyrchol yn rhagori ar y manteision hir dymor."

Pwysleisiodd yr uwch awdur Dr Ines Fürtbauer, pennaeth y labordy Ecoleg Ymddygiadol ac Endocrinoleg ym Mhrifysgol Abertawe, y goblygiadau ehangach:

"Mae'r astudiaeth hon yn darparu gwybodaeth ddefnyddiol am ddulliau sylfaenol creu cysylltiadau cymdeithasol a rheoli straen. Drwy ddeall y ddeinameg hon, gall ein helpu i ddeall strategaethau goroesi ac iechyd anifeiliaid cymdeithasol."

Mae'r ymchwil hon yn amlygu  pwysigrwydd ymchwilio i’r cysylltiad rhwng ymddygiadau cymdeithasol a straen ffisiolegol ar raddfeydd amser gwahanol, gyda chanlyniadau wrthsythweledol weithiau'n cyfrannu at y ddadl barhaus ynghylch costau a manteision bywyd cymdeithasol mewn anifeiliaid.

Rhannu'r stori