Mae ymchwil sy'n helpu'r CU a llysoedd ledled y byd i asesu tystiolaeth o ffonau symudol wrth erlyn troseddau rhyfel ac achosion hawliau dynol eraill, wedi cyrraedd rhestr fer gwobr uchel ei bri sy'n amlygu effaith ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe.
Mae Gwobr Dathlu Effaith 2024, a gynhelir gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC), yn cydnabod effaith gymdeithasol ehangach yr ymchwil a ariennir gan yr ESRC mewn prifysgolion yn y DU.
Enw'r prosiect ar y rhestr fer, a arweinir gan arbenigwr cyfreithiol ym Mhrifysgol Abertawe, yw "Strengthening the use of open-source research in human rights investigations".
Mewn byd lle mae ffonau symudol mor gyffredin, mae gwrthdrawiadau'n cael eu recordio fwyfwy gan lygad-dystion a'u lanlwytho i'r rhyngrwyd. Mae'r lluniau, y recordiadau a’r fideos ffynhonnell agored hyn yn cynnig potensial enfawr ar gyfer ymchwiliadau hawliau dynol a threialon erchylltra torfol.
Fodd bynnag, mae heriau ynghlwm wrth ddod o hyd i'r wybodaeth hon, gwirio ei bod yn ddilys, sicrhau nad oes rhagfarn ynddi, ac o ran y symiau enfawr o ddata, prosesu a chatalogio tystiolaeth.
Mae'r Athro Yvonne McDermott Rees o Ysgol y Gyfraith Prifysgol Abertawe'n esbonio:
"Un o'r prif broblemau wrth ddefnyddio tystiolaeth o'r rhyngrwyd yw bod y ffynhonnell yn aml yn anhysbys - ydy'n perthyn i'r unigolyn a wnaeth ei phostio neu ydy wedi cael ei hail-bostio o gyfrif arall? Ydy'n gamwybodaeth neu wedi cael ei chambriodoli, er enghraifft fideo sy'n honni dod o Gaza yn 2024, pan gafodd ei recordio yn Syria yn 2017 mewn gwirionedd? Yn aml mae platfformau'n dileu'r metadata sy'n cynnwys gwybodaeth am amser, dyddiad a lleoliad y ffilmio, gan ei wneud yn fwy anodd ei wirio."
"Hefyd, gyda miloedd o oriau o ddeunydd, gall ymchwiliadau ffynhonnell agored gynhyrchu setiau data enfawr. Mae angen i ymchwilwyr allu hidlo'r wybodaeth fwyaf perthnasol a sicrhau bod modd ei chadw yn unol â safonau cyfreithiol."
Enw'r prosiect hwn yw OSR4Rights, a chafodd ei ariannu gan grant Ymchwil Drawsnewidiol yr ESRC rhwng 2018 a 2021. Ei nod yw cryfhau'r defnydd a'r ddealltwriaeth o wybodaeth ffynhonnell agored gan ymchwilwyr, cyfreithwyr a barnwyr wrth geisio cyfiawnder ar gyfer troseddau yn erbyn hawliau dynol.
Mae'r tîm amlddisgyblaethol yn cynnwys arbenigwyr o Brifysgol Abertawe, Prifysgol y Frenhines Mary, Llundain, Prifysgol Heriot-Watt, Prifysgol Manceinion, Prifysgol Califfornia, Berkeley, Human Rights Watch a HM Software.
Mae gwaith y tîm eisoes wedi cael effaith. Er enghraifft, datblygodd offer technegol i wneud ymchwiliadau'n fwy effeithlon a systematig. Roedd y rhain yn cynnwys offeryn i ganfod iaith casineb a FireMap, sy'n galluogi ymchwilwyr i fapio patrymau tanau, megis llosgi pentrefi. O'r blaen, byddai ymchwilwyr yn tynnu cipluniau â llaw o wybodaeth ar-lein ac yn ei storio, ond mae'r offeryn archifo awtomatig yn awtomeiddio'r broses, gan gofnodi'r wybodaeth a diogelu'r gadwyn dystiolaeth.
Ar ben hyn, darparodd y tîm hyfforddiant ac arweiniad i sefydliadau - gan gynnwys cyrff canfod ffeithiau'r CU, Europol, ymchwilwyr o Syria, y Swyddfa Dramor a Chymanwlad, INTERPOL ac aelodau staff Cyngres yr Unol Daleithiau, yn ogystal â barnwyr a chyfreithwyr yn Irac, Wcráin, ac o lysoedd rhyngwladol yn Yr Hag - ar werthuso cryfderau a gwendidau gwybodaeth ffynhonnell agored.
Ychwanegodd yr Athro McDermott Rees:
"Mae cynnwys yr ymchwil ar restr fer y Wobr hon yn gydnabyddiaeth am effaith y gwaith hollbwysig mae tîm OSR4Rights wedi'i wneud. Mae'r gwaith hwnnw yn gymorth i ymchwilwyr, cyfreithwyr a barnwyr sy'n ceisio sicrhau atebolrwydd am droseddau yn erbyn hawliau dynol. Ond y buddiolwyr yn y pen draw yw llygad-dystion i erchyllterau, sydd yn aml yn cymryd risgiau personol enfawr i recordio a rhannu tystiolaeth ar-lein, a dioddefwyr y troseddau hynny sy'n chwilio am gyfiawnder."
Meddai Cadeirydd Gweithredol yr ESRC, Stian Westlake:
"Y wobr Dathlu Effaith yw ffordd y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol o gydnabod cyflawniadau arbennig economegwyr a gwyddonwyr cymdeithasol rhagorol y DU.
Rwy'n falch bod y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol wedi ariannu'r prosiectau gwerthfawr hyn, a bod gennym gyfle i ddathlu'r effaith sylweddol a gyflawnir."
Bydd gwaith pawb ar y rhestr fer yn cael ei gynnwys mewn ffilm a byddan nhw wedi cael hyfforddiant cyfryngau.
Bydd yr enillwyr yn cael £10,000 i'w wario er mwyn hyrwyddo cyfnewid gwybodaeth, ymgysylltu â'r cyhoedd neu weithgareddau cyfathrebu eraill.
Cyhoeddir yr enillwyr mewn seremoni wobrwyo yn y Gymdeithas Frenhinol yn Llundain ar 20 Tachwedd 2024.