- Rhif y Swydd
- SU00356
- Math o Gytundeb
- Contract cyfyngedig
- Cyflog
- £22,681 i £24,533 y flwyddyn
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Ystadau a Gwasanaethau Campws
- Lleoliad
- Campws Singleton, Abertawe
- Dyddiad Cau
- 29 Gorff 2024
- Dyddiad Cyfweliad
- 9 Awst 2024
- Ymholiadau Anffurfiol
-
- Melissa Ferreira Melissa.ferreira@swansea.ac.uk
- Michelle Dene Michelle.dene@swansea.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Mae'r rôl hon yn yr adran Gwasanaethau Digwyddiadau sy'n cefnogi’r gwaith o reoli polisi dyrannu archebion y Brifysgol a'i weithredu. Deiliad y swydd fydd y cyswllt cyntaf ar gyfer ymholiadau archebu dros y ffôn, drwy e-bost ac wyneb yn wyneb gan staff, myfyrwyr ac ymwelwyr. Rhoi cymorth gweinyddol i'r Gwasanaethau Digwyddiadau.
- Cynorthwyo wrth ddatblygu gweithdrefnau archebu, gweinyddu a system newydd a'u rhoi ar waith.
- Bod yn gyfrifol am fewnbynnu archebion, archebion gwaith ac archwiliadau i systemau'r Brifysgol.
- Sicrhau bod archebion yn cael eu prosesu’n briodol yn unol â'r gweithdrefnau.
- Esbonio'r cynnyrch a'r gwasanaethau sydd ar gael, gan ddefnyddio'r cyfle i werthu.
- Cyfathrebu a chydlynu gweithgarwch archebu lleoedd ar y campws yn effeithiol, gweithio gydag adrannau darparu gwasanaethau fel y bo'n briodol.
- Datblygu perthynas waith effeithiol a chefnogi gweithgareddau Timau Gwasanaethau Campws a'r timau ehangach yn Ystadau a Chyfleusterau.
- Rhoi gwybod am y defnydd o leoedd sy’n cael eu harchebu, gan ledaenu gwybodaeth i randdeiliaid perthnasol.
- Bod yn atebol am gyflawni canlyniadau, gan greu diwylliant sy'n symbylu eraill i fod yn arloesol a chanolbwyntio ar ganlyniadau, a pherfformio'n effeithiol yn ystod cyfnodau heriol a newidiol.
- Helpu i gyflawni rhagoriaeth gwasanaeth cwsmeriaid ar gyfer Ystadau a Rheoli Cyfleusterau drwy ymgysylltu â chwsmeriaid a rhanddeiliaid.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.