Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU00432
Math o Gytundeb
Contract cyfyngedig
Cyflog
£38,205 i £44,263 y flwyddyn
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol
Lleoliad
Campws Singleton, Abertawe
Dyddiad Cau
26 Gorff 2024
Dyddiad Cyfweliad
5 Awst 2024
Ymholiadau Anffurfiol
Dr Livio Robaldo livio.robaldo@swansea.ac.uk

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Bydd y Cynorthwy-ydd Ymchwil Ôl-ddoethurol yn cyfrannu at brosiect Odyssey Innovate UK a ariennir dan gystadleuaeth Innovate UK o'r enw "Professional & Financial Services Data Access Demonstrators:  ESG". Mae consortiwm y prosiect yn cynnwys Tabled Technologies Limited (https://tabled.io/main), yr Archifau Cenedlaethol (https://www.nationalarchives.gov.uk), a thair prifysgol yn y DU, gan gynnwys Prifysgol Abertawe. Mae'r Archifau Cenedlaethol eisoes yn cyhoeddi holl ddeddfwriaeth a chyfreitheg y DU mewn fformat XML arbennig a elwir yn "LegalDocML", a ddyluniwyd yn benodol ar gyfer y maes cyfreithiol.  Yng nghyd-destun y prosiect hwn, bydd yr Archifau Cenedlaethol yn cyfoethogi ffeiliau LegalDocML drwy ychwanegu metadata er mwyn gwella cynnwys ac effeithiolrwydd y Modelau Iaith Mawr a ddefnyddir yn yr ap LegalPath A2J, wedi'i fasnacheiddio gan Tabled Technologies Limited.  Bydd y Cynorthwy-ydd Ymchwil Ôl-ddoethurol yn cefnogi gwaith i ddatblygu'r Modelau Iaith Mawr hyn, gan ganolbwyntio'n benodol ar gysylltu canfyddiadau'r Modelau Iaith Mawr â'r dogfennau ffynhonnell a ddefnyddiwyd wrth gyflawni'r canfyddiadau hyn.  Yn benodol, bydd y Cynorthwy-ydd Ymchwil Ôl-ddoethurol yn ymchwilio dulliau ymchwil arloesol i fanteisio ar y fformat LegalDocML XML er mwyn nodi'r cysylltiadau hyn, gan bennu pa ddogfennau cyfreithiol a chyfreitheg o'r DU (neu adrannau, paragraffau ac ati yn y dogfennau hyn) a ddefnyddiwyd gan y modelau iaith mawr i greu eu hallbwn.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.

Rhannu

Lawrlwytho Llynfryn yr Ymgeisydd Lawrlwytho Diswyddiad swydd Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr