- Rhif y Swydd
- SU00449
- Math o Gytundeb
- Contract anghyfyngedig
- Cyflog
- £28,759 i £32,332 y flwyddyn
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Cyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg
- Lleoliad
- Campws Singleton, Abertawe
- Dyddiad Cau
- 7 Awst 2024
- Dyddiad Cyfweliad
- 27 Awst 2024
- Ymholiadau Anffurfiol
-
- Hilary Williams h.c.williams@swansea.ac.uk
- Hugh Thomas Hugh.thomas@swansea.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Dyma rôl barhaol, ran-amser i weithio ar ddydd Llun a dydd Mawrth yn unig.
Bydd deiliad y swydd yn gweithio fel rhan o dîm Technegol, Isadeiledd ac Amgylchedd y Gyfadran ac mewn cydweithrediad â chydweithwyr o Gyfarwyddiaethau ac Unedau Gwasanaeth Proffesiynol eraill y Brifysgol, er mwyn rhoi’r cynlluniau gweithredol sy'n gysylltiedig â'u hamgylchedd perthnasol ar waith, gan sicrhau eu bod yn cyd-fynd ac yn cysylltu â Chyfadrannau ac Unedau Gwasanaeth Proffesiynol eraill a strategaethau a chynlluniau trosfwaol i wella effeithlonrwydd ac ansawdd.
Bydd y Technegydd (Y Biowyddorau) yn gweithio'n agos gydag aelodau staff y Gyfadran a chydweithwyr mewn Unedau Gwasanaeth Proffesiynol/Cyfadrannau eraill, er mwyn sicrhau y caiff eu hamgylchedd perthnasol ei gynnal yn effeithiol o ddydd i ddydd; gan gynnwys offer, nwyddau traul a systemau eraill sy'n benodol i'r Gyfadran ac sy'n ofynnol er mwyn cyflawni ymdrechion addysgu ac ymchwil y Gyfadran. Gwneir hyn drwy ymgysylltu â rhwydwaith o unigolion sy'n cynnwys Tîm Technegol y Gyfadran, aelodau staff eraill y Brifysgol a'i chyflenwyr.
Yn ogystal, bydd yn ofynnol i ddeiliad y swydd gynnal a chadw, gwasanaethu, calibradu a thrwsio cyfarpar i ddiwallu anghenion. Cyflawni rôl gefnogol yng nghyfleusterau’r Biowyddorau mewn cydweithrediad â staff, myfyrwyr a chyfadrannau eraill yn ôl yr angen. Mae hyn yn cynnwys cyfleusterau Labordai a Rennir i sicrhau bod sesiynau ymarferol y Biowyddorau, Biocemeg, AMS a Fferylliaeth yn cael eu cynnal yn hwylus.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.