Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU00464
Math o Gytundeb
Contract anghyfyngedig
Cyflog
£32,982 i £37,099 y flwyddyn
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Academi Hywel Teifi
Lleoliad
Campws Singleton, Abertawe
Dyddiad Cau
8 Awst 2024
Dyddiad Cyfweliad
19 Awst 2024
Ymholiadau Anffurfiol

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Cyfle i unigolyn brwdfrydig i weithio fel Cyfieithydd yn Uned Cyfieithu a Chydymffurfiaeth Iaith, Academi Hywel Teifi. Mae’r gallu i weithio yn Gymraeg yn allweddol i’r swydd.

Prif nod y Cyfieithydd fydd cynorthwyo wrth ddarparu Gwasanaeth Cyfieithu Cymraeg o ansawdd uchel. Bydd deiliad y swydd yn darparu gwasanaethau i gymuned gyfan y Brifysgol gan weithio fel rhan o dîm i sicrhau bod gwasanaeth cyfieithu ysgrifenedig a gwasanaeth cyfieithu ar y pryd safonol ar gael i’r Brifysgol.

Mae’r gwaith yn amrywiol iawn o ran maes pwnc a thema, a bydd yn adlewyrchu ystod eang o ddisgyblaethau a meysydd ymchwil y Brifysgol. Bydd deiliad y swydd hefyd yn cael pob cyfle i ddatblygu’n broffesiynol yn y swydd. 

Mae hon yn swydd barhaol. Bydd y swydd yn cynnwys patrwm gweithio sy’n cyfuno gweithio o gartref a gweithio yn y swyddfa.

Ymhlith y disgwyliadau ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus mae:

  • Gradd dda yn y Gymraeg neu gyfwerth a/neu brofiad gwaith cyfatebol.
  • Sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig rhagorol yn Gymraeg a Saesneg.
  • Sgiliau cyfieithu rhagorol o'r Saesneg i'r Gymraeg ac o'r Gymraeg i'r Saesneg a llygad am gywirdeb a chysondeb.
  • Aelodaeth o Gymdeithas Gyfieithu gydnabyddedig.
  • Profiad blaenorol o weithio fel cyfieithydd.
  • Profiad o ddefnyddio technoleg cyfieithu (ôl-olygu cyfieithu peirianyddol ac allbwn cof cyfieithu, megis Déjà Vu) a meddalwedd i sicrhau cywirdeb, cysondeb a gwerth am arian o ran cyfieithiadau.
  • Profiad o weithio'n annibynnol gan ddefnyddio eich menter eich hun, yn enwedig o ran ymgysylltu ag eraill.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 3 - Rhugl. Bydd deiliad y swydd yn gallu cynnal sgwrs rugl yn y Gymraeg ar fater sy'n gysylltiedig â gwaith ac ysgrifennu deunydd Cymraeg gwreiddiol yn hyderus.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gofynnir i ymgeiswyr ddarparu cais ar-lein wedi’i gwblhau sy’n dangos tystiolaeth o’r modd yr ydych yn ateb Meini Prawf Hanfodol y swydd. Gellir atodi dogfennau ychwanegol i gefnogi eich cais e.e. CV neu dystiolaeth ddogfennol berthnasol.

Dyddiad Cau: 8 Awst 2024

Bwriedir cynnal cyfweliadau: wythnos 19-23 Awst 2024

Ceir rhagor o wybodaeth am Academi Hywel Teifi ar wefan y Brifysgol.

Rhannu

Lawrlwytho Disgrifiad swydd Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr