- Rhif y Swydd
- SU00217
- Math o Gytundeb
- Contract cyfyngedig
- Cyflog
- £45,585 i £54,395 y flwyddyn
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Adnoddau Dynol
- Lleoliad
- Singleton neu Gampws y Bae, Abertawe
- Dyddiad Cau
- 4 Awst 2024
- Dyddiad Cyfweliad
- 8 Awst 2024
- Ymholiadau Anffurfiol
- Martyn Lewis m.a.lewis@swansea.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus cael ei penodir ar waelod y raddfa gyda chynyddran ar 1 Hydref bob blwyddyn (yn amodol ar gwblhau chwe mis o wasanaeth).
Mae gan Dîm AD Prifysgol Abertawe gyfle cyffrous i 2 Bartner Busnes AD ymuno â’u cymuned AD gweithgar, sy'n ymfalchïo mewn darparu cyngor proffesiynol rhagweithiol o ansawdd uchel a gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid i bob cyd-Aelod ar faterion a phrosesau pawb.
Byddwch chi’n gyfrifol am arwain Adnoddau Dynol mewn colegau a swyddogaethau, yn ogystal â gweithio gyda gweithwyr proffesiynol eraill ym maes Adnoddau Dynol i gyflenwi mentrau busnes strategol, Byddwch yn weladwy iawn ac yn modelu arweinyddiaeth ragorol; Byddwch hefyd yn arwain swyddogaeth AD gydlynol a dylanwadol, yn datblygu gallu ac yn rhagweld anghenion trefniadol. Byddwch yn deall yr amgylchedd busnes lleol a trefniadol, yn adnabod risgiau, yn darparu sylwadau ac atebion arloesol a hyblyg yn seiliedig ar olwg hirdymor o gyfeiriad y sefydliad, ac yn llywio ac alinio’r ateb AD i gyd-fynd â hynny.
Byddwch chi’n chwarae rhan hanfodol mewn arwain gweddnewid ar draws y Brifysgol, gan gydbwyso sgiliau cynllunio a threfnu rhagorol gyda deallusrwydd emosiynol cryf er mwyn cyflenwi canlyniadau heriol ar gyflymder, mewn amgylchedd cymhleth a hynod o wleidyddol.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw . Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.