Yr Athro David Smith yw Dirprwy Is-ganghellor a Deon Gweithredol y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg.

Ganwyd a magwyd David yn Durham. Astudiodd y Gwyddorau Naturiol yng Ngholeg Girton, Caergrawnt, gan arbenigo mewn Cemeg. Gwnaeth aros yng Nghaergrawnt i gwblhau ei PhD, cyn symud ymlaen i swyddi ymchwil ym Mhrifysgol Birmingham a Phrifysgol Southampton. Wedi hynny symudodd i Brifysgol Caerwysg, ac yna i Brifysgol Bryste, cyn cyrraedd Prifysgol Abertawe ar ddechrau 2023.

Mae diddordebau ymchwil David mewn sbectrosgopeg a ffotocemeg moleciwlau a chymhlygau adweitheddol, gan ddefnyddio laserau cydraniad uchel, ymbelydredd microdonau a ffynonellau syncrotron, yn ogystal â thechnegau cyfrifiadol mecaneg gwantwm, i ymchwilio i strwythurau a dynameg.

Mae David yn arweinydd addysg – bu’n Gyfarwyddwr Addysg Cyfadran a'r Brifysgol ym Mryste - â diddordeb penodol mewn datblygu cwricwlwm a dysgu cyfunol ac ar-lein. Mae hefyd yn angerddol am ehangu mynediad a chyfranogiad.

Mae David yn Gemegydd Siartredig ac yn Gymrawd y Gymdeithas Gemeg Frenhinol. Ar hyn o bryd mae'n un o Ymddiriedolwyr y Gymdeithas Gemeg Frenhinol ac yn cadeirio'r Bwrdd Safonau Proffesiynol.

Professor David Smith looking at the camera in a red checked shirt. Neutral background.