Beth yw’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth?
Daeth y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth (2000) i rym yn llawn ar 1 Ionawr 2005, ac mae’n rhoi mynediad i’r cyhoedd i wybodaeth sy’n cael ei dal gan awdurdodau cyhoeddus. Mae’r Ddeddf yn cynnwys unrhyw wybodaeth a gofnodwyd sy’n cael ei dal gan awdurdodau cyhoeddus yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, a chan awdurdodau yn yr Alban sy’n gweithredu ledled Prydain. Mae gwybodaeth a gofnodwyd yn cynnwys dogfennau sydd wedi’u hargraffu, ffeiliau cyfrifiadurol, llythyrau, e-byst, lluniau, a recordiadau sain neu fideo. Oherwydd eu bod yn cael arian cyhoeddus, mae prifysgolion yn cael eu diffinio fel awdurdodau cyhoeddus at ddibenion y Ddeddf.
Mae’r Ddeddf yn galluogi unrhyw un, yn unrhyw le yn y byd, i wneud cais Rhyddid Gwybodaeth, yn ysgrifenedig, i awdurdod cyhoeddus, ac fel arfer mae’n rhaid i’r awdurdod cyhoeddus ymateb o fewn 20 diwrnod gwaith. Gall “yn ysgrifenedig” naill ai fod drwy gopi caled neu drwy ddulliau electronig. Does dim rhaid i’r sawl sy’n gwneud y cais ddweud eu bod nhw’n ymarfer eu hawliau o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.
Yn ôl canllawiau’r llywodraeth, nid yw Undebau Myfyrwyr yn cael eu diffinio fel awdurdodau cyhoeddus at ddibenion y Ddeddf.
Mae’r gwaith o weithredu’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn cael ei oruchwylio ledled gwledydd Prydain gan swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sydd â’r un rôl mewn perthynas â Diogelu Data.
Nid yw’r Ddeddf yn rhoi mynediad i bobl at eu data personol nhw (gwybodaeth amdanyn nhw eu hunain) fel eu cofnodion myfyrwyr. Os bydd aelod o’r cyhoedd eisiau gweld gwybodaeth y mae awdurdod cyhoeddus yn ei dal amdanyn nhw, dylent wneud cais gwrthrych am wybodaeth o dan Ddeddf Diogelu Data 1998.
Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth benodol sydd â’r nod o gynorthwyo staff i ddeall sut i ymdrin â cheisiadau rhyddid gwybodaeth.