Mae Adran 102 Deddf Diogelu Rhyddidau 2012 yn ychwanegu darpariaethau newydd i’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth (ac yn benodol adrannau 11 ac 19) sy’n ymwneud â setiau data. Mae’r darpariaethau newydd yn ymwneud â’r ffordd mae gwybodaeth yn cael ei rhyddhau, yn hytrach na pha wybodaeth sy’n cael ei rhyddhau, ac nid ydynt ond yn ymwneud â gwybodaeth y mae’r awdurdod cyhoeddus yn ei dal fel set ddata.